Adroddiad Blynyddol 2016/2017

Darllenwch y fersiwn Saesneg

Mae ein Hadolygiad Blynyddol 2016/17 yn trafod ein perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn ein Strategaeth Gorfforaethol a gweithgareddau rheoleiddiol allweddol o'r flwyddyn a adroddwyd.

Lawrlwythwch (PDF 45 tudalen, 10MB)

Amdanom Ni

Mae’r Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr yn rheoleiddio 186,000 o gyfreithwyr a 10,400 o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithio er budd y cyhoedd, gan ddiogelu defnyddwyr a gosod a gorfodi safonau proffesiynol uchel. Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod gwasanaethau cyfreithiol fforddiadwy ar gael, ac yn cefnogi rheolaeth y gyfraith a’r gwaith o weinyddu cyfiawnder.

Gosod safonau proffesiynol uchel

Rydym yn sicrhau bod y rheini sy’n dechrau gweithio yn y proffesiwn yn addas i wneud hynny a’u bod yn cyrraedd y safonau proffesiynol da y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl. Fe wnawn hyn drwy oruchwylio addysg a hyfforddiant proffesiynol, drwy osod y safonau ar gyfer dechrau gweithio, a thrwy sicrhau bod gan bawb sy’n gwneud cais i weithio gymeriad addas cyn caniatáu iddynt ddod yn gyfreithwyr.

Yn yr un modd, rydym yn asesu cwmnïau cyfreithiol a mathau eraill o gwmnïau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn addas i gynnig gwasanaethau cyfreithiol, cyn caniatáu iddynt i wneud hynny. Unwaith y mae’r unigolion a’r cwmnïau hyn wedi dechrau gweithio, rydym yn rhoi arweiniad a rheolau iddynt, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fanteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus, er mwyn sicrhau bod y safonau hynny’n cael eu cynnal.

Gwybodaeth ac arweiniad Rydym yn rhoi gwybodaeth am gyfreithwyr, am eu gwaith, ac am y safonau y gall y cyhoedd ddisgwyl eu gweld. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod gwybodaeth berthnasol ac amserol ar gael i ddefnyddwyr, i’w helpu i wneud dewisiadau da wrth brynu gwasanaeth cyfreithiol.

Diogelu defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol

Rydym yn sicrhau bod y cyhoedd wedi'u diogelu, a hynny drwy gymryd camau pan aiff pethau o chwith. Rydym yn pennu ac yn monitro gofynion yswiriant indemniad ac rydym yn rhedeg cynllun iawndal. Bydd y gronfa ddewisol hon, mewn rhai amgylchiadau, yn ad-dalu arian a gollwyd gan bobl oherwydd anonestrwydd neu ddiffyg gallu ar ran unigolyn neu gwmni cyfreithiol sy’n cael eu rheoleiddio gennym.

Camau disgyblu

Rydym yn monitro ac yn goruchwylio ymddygiad cyfreithwyr a chwmnïau yn unol â'r safonau rydym wedi’u gosod. Os na fydd cyfreithwyr neu gwmnïau yn cyrraedd y safonau hyn, rydym yn ymchwilio i’w harferion ac i’r modd y maent yn cydymffurfio â’n rheolau ac, os bydd angen, gallwn gymryd camau rheoleiddio fel dirwyo neu geryddu cyfreithwyr. Os bydd gennym bryderon difrifol am ymddygiad cyfreithiwr neu gwmni, byddwn yn eu herlyn drwy’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Pan fydd angen, gallwn feddiannu ffeiliau ac arian cwmni er mwyn diogelu cleientiaid a'r cyhoedd yn ehangach, a dychwelyd y papurau a'r arian i'w perchnogion.

Gwasanaethau cyfreithiol hygyrch a fforddiadwy

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl na busnesau bach yn defnyddio gwasanaethau cyfreithiol pan fyddant yn wynebu problem gyfreithiol. Gwyddom fod pobl yn teimlo bod gwasanaethau cyfreithiol yn ddrud ac yn anodd ei defnyddio, ac felly rydym yn gweithio i greu marchnad agored, fodern a chystadleuol, sy’n darparu gwasanaethau mwy fforddiadwy a hygyrch. Er mwyn gwneud hyn, rydym wrthi'n adolygu ein gofynion rheoleiddio er mwyn sicrhau eu bod yn gymesur. Rydym hefyd yn cymryd camau i leihau biwrocratiaeth ddiangen, fel y gall cyfreithwyr a chwmnïau gynnal busnes yn haws a chynnig gwasanaethau newydd, gan ddiogelu defnyddwyr ar yr un pryd.

Open all

Croeso cynnes i’n Hadolygiad Blynyddol ar gyfer 2016/17, sy’n adeiladu ar lwyddiant cyhoeddiad y llynedd.

Fel arfer, rydym yn rhoi pwyslais ar sicrhau bod y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn cael eu diogelu, yn cael gwasanaeth da gan eu cyfreithiwr neu gwmni cyfreithiol, a bod ein mesurau rheoleiddio’n hybu sector cyfreithiol hyblyg ac arloesol.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi cymeradwyo cynlluniau i gyflwyno’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Bydd hyn yn golygu bod pob darpar gyfreithiwr yn sefyll yr un arholiad i ymuno â’r proffesiwn, pa bynnag lwybr hyfforddi maent wedi’i ddilyn. Bydd cysondeb o’r fath yn gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod bod pob cyfreithiwr yn cyrraedd yr un safonau proffesiynol uchel y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl.

Rydym hefyd wedi ymgynghori ar gynigion ar gyfer Llawlyfr a Chodau Ymddygiad newydd ar gyfer cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol, i sicrhau bod ein rheolau’n hygyrch, yn eglur ac yn canolbwyntio ar y safonau sy’n cyfrif. Bydd y newidiadau hyn yn caniatáu i gwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau o safon uchel a fforddiadwy, yn hytrach na threulio amser a gwario arian ar weithredu rheolau cymhleth a rhagnodol.

Mae cefnogi ac annog proffesiwn amrywiol sy’n adlewyrchu’r gymdeithas mae’n ei gwasanaethu, unwaith eto, wedi bod yn flaenoriaeth. Rydym wedi ymgorffori ymrwymiad i amrywiaeth yn ein holl waith, ac rydym yn ddiolchgar i’r cwmnïau hynny a gymerodd ran yn ein hymarferiad casglu data ar amrywiaeth yn 2017. Mae amlygu amrywiaeth y proffesiwn yn helpu pawb i fonitro cynnydd ac mae’n annog gweithle cynhwysol.

Mae peth o’n gwaith eleni wedi elwa ar adroddiad pwysig gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar y sector cyfreithiol, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2016. Nid yw tua saith o bob 10 o bobl yn defnyddio gwasanaethau cyfreithiol pan fydd eu hangen iddynt. Rwyf yn bendant bod yn rhaid i hyn newid.

Mae angen mwy o wybodaeth ar y cyhoedd a busnesau bach am yr hyn mae darparwyr yn ei gynnig fel y gallant wneud dewisiadau da. Roedd canfyddiadau’r CMA yn cadarnhau ein hymgynghoriad Gwell Gwybodaeth, lle gwnaethpwyd cynnig i gyhoeddi mwy o wybodaeth am gwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr, yn ogystal â gofyn iddynt fod yn fwy tryloyw o ran pris a manylion am eu gwasanaethau cyfreithiol.

Wrth gwrs, mae’r sector yn wynebu risgiau, ac mae gennym rôl i ymateb iddynt. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi dau rybudd am fygythiad cynyddol cysylltiad cyfreithiwr â chynlluniau buddsoddi amheus, sydd wedi costio mwy na £100m i’r cyhoedd. Mae nifer fach o gwmnïau mewn perygl o niweidio hyder pobl yn y proffesiwn, felly rydym yn cymryd camau cadarn pan fyddwn yn dod ar draws cynlluniau o’r fath. Fel y dengys ein Hadolygiad, rydym yn trin o ddifri unrhyw weithgarwch sy’n agor y drws i wyngalchu arian, sy’n ariannu terfysgaeth a throseddau, fel masnachu mewn pobl a’r fasnach mewn cyffuriau.

Bydd y flwyddyn o’n blaenau’n dod â heriau a chyfleoedd newydd yn ei sgil, yn fwyaf penodol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Dyna pam yr ydym wedi cynnwys ymrwymiad yn ein Strategaeth Gorfforaethol 2017 i 2020 i sicrhau bod ein trefniadau rheoleiddiol yn gweithio mor effeithiol â phosibl yng nghyd-destun unrhyw berthynas newydd â’r UE

Wrth inni barhau i ddatblygu trefniadau rheoleiddio modern a blaengar, sy’n ateb gofynion y dyfodol, mi hoffwn eich annog i rannu eich syniadau â ni. Rwyf yn croesawu ein sylwadau a’ch adborth.

Gobeithiaf y gwnewch fwynhau darllen ein Hadolygiad Blynyddol am 2016/17.

Enid Rowlands

Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr

Pwy sy'n ariannu ein gwaith

Pob blwyddyn, rydym yn casglu ffioedd gan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, a chan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy’n gweithio ym maes cyfraith Cymru a Lloegr dramor. Rydym yn ceisio adennill peth neu’r holl arian a werir gennym ar ymyrryd mewn cwmnïau cyfreithiol ac ar gymryd camau disgyblu yn erbyn y rhai sy'n cael eu rheoleiddio gennym. Yn 2016/17, llwyddwyd i adennill £2.7m, o’i gymharu â £2.4m yn 2015/16.

I dalu ein costau gweinyddol, rydym hefyd yn codi tâl am rai o’n gwasanaethau. Er enghraifft, awdurdodi strwythurau busnes amgen i gynnig gwasanaethau cyfreithiol o dan ein system reoleiddio a chyhoeddi tystysgrifau am enw da.

Rydym yn rhedeg Cronfa Iawndal ddewisol. Gall dalu iawndal i’r cyhoedd a busnesau bach sy’n dioddef colled ariannol o ganlyniad i anonestrwydd neu fethiant cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr i ddychwelyd arian client.

Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn talu ardoll flynyddol tuag at y gronfa, ac rydym ninnau’n ystyried hawliadau ac yn gwneud taliadau. Rydym yn pennu’r ardoll trwy ystyried pa hawliadau a all gael eu gwneud i’r gronfa, Yn ystod y flwyddyn hon, penderfynwyd cynyddu cyfraniadau ar gyfer 2017/18 oherwydd cynnydd mewn hawliadau sy’n deillio o nifer y cynlluniau buddsoddi amheus y mae cyfreithwyr neu gwmnïau cyfreithiol yn gysylltiedig â hwy lle gall y cyhoedd golli arian.

Faint mae cyfreithwyr a chwmnïau’n ei dalu

Mae’r ffi ymarfer yr ydym yn ei chasglu yn ariannu pum sefydliad, yn llawn neu’n rhannol, gan ein cynnwys ni. Yn 2016/17, casglwyd cyfanswm o £99.9m. Talodd pob cyfreithiwr £290 i ymarfer yn 2016/17, £30 yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol. Casglwyd £59.9m gan gwmnïau, o’i gymharu â £62.7m yn 2015/16. Mae’r swm a delir gan bob cwmni’n amrywio, yn ôl eu maint a’u trosiant.

Rhoi gwerth am arian

Dylai ein dull o reoleiddio fod yn gost-effeithiol, yn fforddiadwy ac yn gymesur, ac rydyn yn monitro faint y mae cwmnïau a chyfreithwyr yn ei dalu bob blwyddyn tuag at y gwaith rheoleiddio hwnnw.

Mae ein polisi ffioedd yn seiliedig ar egwyddorion, sy’n cynnwys bod yn deg â’r rheini sy’n talu ffioedd a sicrhau sefydlogrwydd wrth bennu faint y mae’r rheini sy’n cael eu rheoleiddio yn ei dalu o flwyddyn i flwyddyn. Rydym yn adolygu’r polisi hwn yn barhaus ac ni fyddwn yn newid lefel y ffioedd yn 2016/17.

Yn 2016/17, bu gostyngiad o £0.6m yn ein cyllid, sy’n cyfateb i ostyngiad o 1.1%, ac ar yr un pryd rydym wedi amsugno costau o ganlyniad i chwyddiant. Rydym eisoes wedi llwyddo i leihau ein cyllid ymhellach ar gyfer blwyddyn 2017/18.

Ein costau rheoleiddio

2014/152015/162016/172017/18
£52.9m£54.1m£53.5m£52.6m

Ffigurau ardoll y Gronfa Iawndal

Er bod yr ardoll yn cynyddu, mae'n parhau i fod yn sylweddol is na phum neu chwe blynedd yn ôl. Manylion pellach am y Gronfa Iawndal

2012/132013/142014/152015/162016/172017/18
Unig.CwmniUnig.CwmniUnig.CwmniUnig.CwmniUnig.CwmniUnig.Cwmni
£92£1,340£56£836£32£548£32£548£32£548£40£778

Sut mae’r ffi yn cael ei rhannu

Mae’r ffi ymarfer yn cael ei rhannu rhwng:

  • Cymdeithas y Cyfreithwyr, y corff sy'n cynrychioli cyfreithwyr (rydym yn rhan o Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr)
  • Ombwdsmon y Gyfraith, y sefydliad sy’n ymdrin â chwynion am wasanaeth a ddarperir gan gyfreithwyr
  • y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol, y corff annibynnol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r broses o reoleiddio cyfreithwyr (gan gynnwys, er enghraifft, cyfreithwyr, bargyfreithwyr a'r rheini sydd wedi’u trwyddedu i wneud gwaith trawsgludo) yng Nghymru a Lloegr
  • y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, sef tribiwnlys statudol annibynnol sy’n delio ag erlyniadau a gaiff eu dwyn gennym yn erbyn cyfreithwyr
  • yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr, sy’n rheoleiddio cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.

Mae Ombwdsmon y Gyfraith a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol hefyd yn cael arian gan rannau eraill o'r proffesiwn cyfreithiol.

Rhannu ffioedd yn 2016/17

SRA53%
TLS31%
LeO and the LSB13%
SDT3%

Sut y gwariwyd ein harian yn 2016/17

Costau staff 41%
Y gwasanaethau yr ydym yn eu rhannu â Chymdeithas y Cyfreithwyr, er enghraifft adnoddau dynol a'r adran gyllid14%
Prosiectau, fel y rhaglen sydd ar waith i foderneiddio ein TG11%
Ffioedd cyfreithiol mewn achosion disgyblu10%
Ymyriadau 10%
Costau eraill, fel rhaglenni ymchwil a digwyddiadau 8%
Costau cyfleusterau ac eiddo 6%

Ein Bwrdd

Mae Bwrdd ARhC yn goruchwylio ein trefniadau rheoli a’n perfformiad. Mae’n pennu ein strategaeth ac yn cefnogi, herio a dwyn y tîm rheolwyr gweithredol i gyfrif o ran ein cyfeiriad a’n gweithrediadau.

Mae gan y Bwrdd hyd at 15 o aelodau. Rhaid iddo fod â mwyafrif o aelodau lleyg a chadeirydd bob amser.

Enid Rowlands, Cadeirydd

Penodwyd Enid fel cadeirydd lleyg cyntaf y Bwrdd ar 1 Ionawr 2015. Roedd Enid yn aelod o fwrdd rheoleiddio’r meddygon, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, am wyth mlynedd, ac mae wedi llenwi rolau â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru. Mae hefyd wedi gweithredu fel ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth y Tywysog ac roedd yn Gadeirydd Cymorth i Ddioddefwyr yn y DU.

Yr Athro Julia Black

Mae Julia yn ddirprwy gyfarwyddwr ymchwil ac athro’r gyfraith yn y London School of Economics and Political Science. Ei phrif faes ymchwil yw rheoleiddio. Mae Julia wedi cynghori llunwyr polisi, cyrff defnyddwyr a rheoleiddwyr ar faterion dylunio sefydliadol a pholisi rheoleiddio yn y DU a thramor.

Sharon Darcy

Sharon yw cyfarwyddwr y felin drafod Sustainability First ac mae’n aelod o Banel Cynghori Arbenigol Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU. Roedd yn un o’r aelodau lleyg cyntaf i gael ei phenodi ar Bwyllgor Safonau Tŷ’r Arglwyddi. Mae Sharon yn aelod o gyngor Which?

Jane Furniss CBE

Jane yw’r uwch gyfarwyddwr annibynnol ar y Bwrdd. Yn 2014, penodwyd Jane fel cyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Treuliodd Jane dros bum mlynedd fel uwch was sifil yn y Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Diwygio Cyfiawnder Troseddol, ac roedd yn brif weithredwr a swyddog cyfrifyddu Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) rhwng 2006 a 2013.

David Heath

Roedd David yn aelod seneddol Somerton and Frome rhwng 1997 a 2015 a bu’n weinidog gwladol yn ystod y llywodraeth glymblaid. Yn ystod ei gyfnod yn y senedd, bu David yn gweithredu fel arglwydd ganghellor yr wrthblaid ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol ac roedd yn aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder.

Paul Marsh

Paul yw cyn lywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr ac roedd yn uwch bartner gyda’r cwmni cyfreithiol Carter Bells LLP yn Kingston upon Thames. Mae ar hyn o bryd yn ymgynghorydd gyda Downs Solicitors yn Surrey.

Barry Matthews

Mae Barry yn gweithio’n fewnol fel cyfarwyddwr materion cyfreithiol a gwerthiant trydydd parti gydag ITV. Roedd yn gyfarwyddwr anweithredol gyda Clearcast Limited a’r Pwyllgor Darlledu ar Arferion Hysbysebu rhwng 2013 a 2016. Yn 2018, sefydlodd y Social Mobility Business Partnership, sy’n helpu myfyrwyr o gefndir incwm isel i ddilyn gyrfa yn y proffesiynau.

Geoff Nicholas

Mae Geoff wedi bod yn bartner yn y grŵp datrys anghydfodau Freshfields Bruckhaus Deringer am dros 20 mlynedd. Mae’n gyd-bennaeth grŵp ymchwiliadau byd-eang y cwmni ac mae’n bartner marchnadoedd byd-eang. Mae Geoff yn cynghori cleientiaid rhyngwladol ar risgiau rheoliadol ac mae’n delio ag ymchwiliadau mewnol ac allanol.

Y Fonesig Denise Platt DBE

Mae Denise yn aelod o’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ac mae’n gyn gadeirydd y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol. Mae ei swyddi yn y gorffennol wedi cynnwys ymddiriedolwr yr NSPCC, ymddiriedolwr Sefydliad Banc Lloyds yng Nghymru a Lloegr, a llywodraethwr Prifysgol Bedfordshire (lle mae’n gymrawd anrhydeddus).

Chris Randall

Mae Chris yn bartner yn Mayo Wynne Baxter ac mae wedi bod yn brif weithredwr er 2007. Ei brif arbenigedd yw ymgyfreithia mewn achosion anafiadau personol, er mai ei rôl bresennol yw rheolwr llawn amser. Cyn cychwyn ar ei yrfa yn y gyfraith, roedd Chris yn swyddog prawf yn Llundain.

Deep Sagar

Mae Deep wedi gweithio fel uwch reolwr â busnesau rhyngwladol, fel Coca-Cola. Mae ei rolau presennol yn cynnwys cadeirydd llywodraethwyr y South Eastern Regional College. Cyn hynny roedd yn gysylltiedig â rheoleiddio proffesiynau eraill a chyfreithwyr yn yr Alban, ac mae wedi cydweithio’n glos â chyfreithwyr, er enghraifft, fel cadeirydd y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau

Yr Athro Shamit Saggar CBE

Mae Shamit yn ddirprwy is-ganghellor cyswllt dros ymchwil ac yn athro polisi cyhoeddus ym Mhrifysgol Essex. Cyn hynny roedd yn gadeirydd Gwasanaeth Cwynion Cyfreithwyr Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Rhwng 2001 a 2003, roedd yn uwch gynghorydd polisi yn uned strategaeth y prif weinidog yn Swyddfa’r Cabinet.

Tony Williams

Tony Williams yw pennaeth Jomati Consultants LLP, ymgynghorwyr rheoli cyfreithiol rhyngwladol. Mae gwasanaethau Jomati yn cynorthwyo cwmnïau cyfreithiol, siambrau bargyfreithwyr ac adrannau cyfreithiol mewnol ag amrywiaeth o faterion strategol a rheoli. Mae Tony yn gyfreithiwr cymwysedig ac yn gyn bartner byd-eang gyda Clifford Chance.

Elaine Williams

Elaine yw cyfarwyddwr cyfreithiol ac ysgrifennydd y cwmni yn Eddie Stobart plc. Cyn hynny roedd yn gwnsler cyffredinol ac ysgrifennydd y cwmni gyda British Land a chyn bartner yn Freshfields Bruckhaus Deringer yn Llundain ac Asia. Cyn hynny, roedd ganddi rôl fel dirprwy ysgrifennydd cwmni’r grŵp gyda HSBC ac fel dirprwy ysgrifennydd y cwmni, rôl lle cafodd brofiad helaeth o lywodraethu corfforaethol ac ymarfer gorau ysgrifenyddiaeth cwmnïau.

David Willis

Mae David yn gyn cyd-brif weithredwr Herbert Smith Freehills. Mae ganddo sawl rôl ar hyn o bryd ag elusennau a sefydliadau addysgol. Un o’i rolau yw is-gadeirydd United Response, elusen sy’n gweithio ag oedolion a phobl ifanc ag anableddau dysgu a chorfforol ac anghenion iechyd meddwl.

Y Bwrdd

Enid Rowlands, Cadeirydd

Mae’r Bwrdd yn cynnwys 15 aelod sy’n goruchwylio holl waith yr Awdurdod.

Mae saith yn gyfreithwyr ac mae wyth yn lleygwyr, gan gynnwys y cadeirydd.


CEO

Paul Philip.

Mae’n arwain cyfeiriad strategol yr Awdurdod.


Materion Allanol

Cyfarwyddwr Gweithredol

Jane Malcolm.

Yn rheoli gwaith ymgysylltu mewnol ac allanol. Mae hyn yn cynnwys Llywodraethu.

  • Cwynion Corfforaethol

    yn delio â chwynion gan y cyhoedd a’r proffesiwn am ein gwasanaeth

  • Cyfathrebu Digidol

    yn rheoli ein presenoldeb ar-lein a’n cyfraniad tuag at legalchoices.org.uk ac iclr.net

  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

    Yn hyrwyddo cydraddoldeb yn y sector, ac yn ymgorffori a hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith ni'n hunain.

  • Cyfathrebu Allanol

    yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol trwy’r cyfryngau a digwyddiadau.

  • Cyfathrebu Mewnol

    yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i staff a'u cynnwys yn ein gwaith

  • Materion Cyhoeddus

    yn gweithio ag aelodau seneddol ac eraill.


Cwnsler Cyffredinol

Cwnsler Cyffredinol, Juliet Oliver.

Yn canfod ac yn datrys materion cyfreithiol ac yn goruchwylio ymarfer gorau cyfreithiol a phrosesau penderfynu effeithiol.

  • Polisi Cyfreithiol

    Yn cynorthwyo â’r gwaith o ddiwygio er mwyn rheoleiddio mewn ffordd fodern, a hynny drwy ddrafftio a rhoi cyngor cyfreithiol

  • Llywodraethu a Chydymffurfiaeth

    Yn cynghori’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd i sicrhau ein bod yn defnyddio ein pwerau mewn ffordd sy’n gyfreithlon ac yn gallu gwrthsefyll heriau.


Cyfarwyddyd ynghylch Achosion Cyfreithiol

Cyfarwyddwr Gweithredol, David Middleton. Yn rhoi arweiniad ar amrywiaeth o faterion ac achosion.

  • Cyfarwyddyd ynghylch Achosion

    Yn cynghori unedau eraill drwy’r sefydliad.

  • Dyfarniadau

    Yn gwneud penderfyniadau rheoleiddiol ffurfiol ar achosion sy’n destun anghydfod, achosion proffil uchel neu gymhleth.


Gweithrediadau ac Ansawdd

Cyfarwyddwr Gweithredol, Robert Loughlin. Yn rheoli gweithrediadau ac yn monitro eu heffeithiolrwydd.

  • Awdurdodi

    Yn awdurdodi unigolion a chwmnïau i ymuno â’r proffesiwn a monitro eu haddasrwydd.

  • Gwella Busnes a Sicrhau Ansawdd

    Yn sicrhau ansawdd, rheoli gwybodaeth a diwallu anghenion hyfforddi.

  • Diogelu Cleientiaid

    Yn gweinyddu’r Gronfa Ansawdd ac yn ymyrryd mewn cwmnïau cyfreithiol yn ôl yr angen.

  • Canolfan Gyswllt

    Delio ag ymholiadau gan y cyhoedd a’r proffesiwn.

  • Ymchwilio a Goruchwylio

    Yn asesu risgiau, ac yn dadansoddi ac yn ymchwilio i adroddiadau a wnaed am gyfreithwyr.

  • Cyfreithiol a Gorfodi

    Yn paratoi achosion i’w dwyn gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

  • Rheoli Rheoleiddio

    Ymgysylltu’n rhagweithiol â chwmnïau ar ystod o faterion a chynnal ymchwil thematig i’r sector cyfreithiol.


Polisi

Cyfarwyddwr Gweithredol, Crispin Passmore

Hyrwyddo newidiadau i bolisi a rheoleiddio o fewn y sector cyfreithiol.

  • Addysg a Hyfforddiant

    Datblygu polisi ac addysgu a hyfforddi cyfreithwyr.

  • Canllawiau Moeseg

    Rhoi arweiniad ar ein Cod a’n llawlyfr i’r sawl sy’n cael eu rheoleiddio gennym.

  • Polisi Rheoleiddio

    Rhoi diwygiadau ar waith er mwyn rheoleiddio mewn ffordd fodern a sicrhau safonau proffesiynol uchel.

  • Ymchwil a Dadansoddi

    Cynnal ymchwil a pharatoi data i ategu polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.


Strategaeth ac Adnoddau

Cyfarwyddwr Gweithredol, Richard Collins

Datblygu a gweithredu ein strategaeth.

  • Newid Busnes

    Hyrwyddo a chyflawni newid a gwelliannau trwy gydweithredu.

  • TG a’r Seilwaith

    Datblygu a rheoli ein hanghenion TG.


Cyllid, Adnoddau a Swyddogaethau Cymorth

Yn rheoli ein cyllid, delio â chysylltiadau â gweithwyr ac adnoddau, ac yn trefnu rhaglenni risg a pharhad.

Rydym yn cyflogi mwy na 600 o staff sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau, ac mae’r mwyafrif wedi’u lleoli yn ein swyddfa yng nghanol dinas Birmingham, The Cube. Mae gennym hefyd staff wedi’u lleoli yn ein swyddfa yn Llundain ac oddi ar ein safleoedd.

Rydym wedi ymrwymo i fod â gweithlu talentog ac amrywiol i gynnal ein gwaith fel rheolydd sy’n gweithio er budd y cyhoedd.

Ein pobl yw ein hased mwyaf. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar gael y diwylliant a’r arweinyddiaeth gywir ac ar fabwysiadu’r dull gorau posibl wrth recriwtio, hyfforddi, datblygu a gwobrwyo ein staff. Dim ond gyda’u hymroddiad hwy y gallwn ni wasanaethu’r cyhoedd yn dda a chyflawni ein hamcanion strategol.

Sefydliad amrywiol

Rydym yn gwerthfawrogi, yn parchu ac yn dathlu gwahaniaethau ac yn mwynhau’r buddiannau a ddaw i’n diwylliant a’n perfformiad yn sgil amrywiaeth.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod ein staff yn adlewyrchu’r gymuned ehangach sy’n cael ei gwasanaethu gennym. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn amrywiol a chynhwysol, rydym yn recriwtio mewn ffordd hygyrch ac yn creu amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol.

Mae gennym achrediad Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn rhan o’r rhwydwaith Midlands Accessibility. Rydym hefyd yn un o Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ac yn cyflwyno gwybodaeth i Fynegai Cyflogwyr Stonewall. Eleni, roeddem yn ymddangos yn yr 17eg safle ar y rhestr, sy’n golygu ein bod wedi symud 70 lle yn nes at y brig.

Ein gwerthoedd

Mae ein holl weithgarwch yn cael ei ategu gan ein pump o werthoedd craidd, a ddatblygwyd gan ein staff yn 2014. Rydym yn hyrwyddo ein gwerthoedd trwy gynlluniau diolch a gwobrwyo, a thrwy gyfleoedd i drafod a dysgu gyda’n gilydd. Rydym hefyd wedi cyflwyno cyfres o wythnosau gwerthoedd yn 2017. Mae pob wythnos yn hyrwyddo un o’n gwerthoedd trwy weithgareddau a digwyddiadau. Mae staff yn cael eu hannog i feddwl sut y gallant weithredu neu ddangos eu gwerthoedd yn eu gwaith pob dydd.

Annibynnol: Rydym yn gweithredu’n amhleidiol, gan wneud penderfyniadau gwrthrychol y gallwn eu cyfiawnhau ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Proffesiynol: Mae gennym yr wybodaeth a’r sgiliau i gyrraedd safonau uchel, gan anelu at ragoriaeth.

Teg: Rydym yn trin pobl yn gyfartal; heb ffafriaeth na gwahaniaethu

Cynhwysol: Rydym yn gweithio gyda’n gilydd, yn gwerthfawrogi gwahaniaethau, i gyflawni nodau cyffredin.

Blaengar: Rydym yn gwrando, yn ymateb ac yn datblygu a gwella ein ffordd o weithio mewn modd rhagweithiol.

Ein gwaith elusennol

gyfredol yw St Basils, o Orllewin Canolbarth Lloegr. Mae n gweithio â phobl ifanc 16 - 25 oed sy n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ac mae n helpu dros 5,000 o bobl ifanc bob blwyddyn. Y nod yw eu helpu i dorri cylch digartrefedd, fel y gallant fynd ymlaen i brofi dyfodol disglair, llwyddiannus a pheidio dychwelyd eto i gyflwr lle maent mewn perygl o fod yn ddigartref.

Rydym hanner ffordd at gyrraedd ein targed i godi £10,000 i St Basils erbyn diwedd 2018. Yn y flwyddyn gyntaf bu ein staff yn codi arian trwy gymryd rhan yn y St Basils Big Brum Sleepout, rhedeg hanner marathon, trefnu rafflau, a chael dyddiau gwisg anffurfiol a gwerthu cacennau. Bu staff hefyd yn cyfrannu at becynnau dechreuwyr St Basils sy n helpu pobl ifanc i gael cychwyn da pan fyddant yn symud i w cartrefi eu hunain.

Meddai Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu St Basils, Barrie Hodge:

Rydym wrth ein bodd eich bod wedi ein dewis ni fel eich elusen. Mae hyn yn ymrwymiad gwirioneddol i fuddsoddi mewn dyfodol positif i bobl ifanc ledled Gorllewin Canolbarth Lloegr sy n aml heb gael llawer o gyfleoedd mewn bywyd. Ar ran y 5,000 a mwy o bobl ifanc rydym yn eu helpu, diolch o galon.

Yn ogystal â chefnogi St Basils, rydym wedi gweithio ag elusennau eraill hefyd, fel y Social Mobility Business Partnership a Mosaic, a buom yn cymryd rhan yn nheithiau cerdded cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth Cymorth Cyfreithiol i godi arian.

Dod â phobl at ei gilydd: Ein rhwydweithiau staff

Mae rhwydweithiau staff yn ein helpu i greu gweithle gwirioneddol gynhwysol ac i gynnig cymorth uniongyrchol i aelodau drwy hyfforddiant a chyngor. Maent yn datgelu profiadau cydweithwyr, ac maent wedi cynnal ein cysylltiadau â rhanddeiliaid allanol a r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Access Ability Network

Mae nodau ac amcanion y rhwydwaith hwn yn canolbwyntio ar hybu cyfleoedd cyfartal i gyflogeion anabl, a chreu amgylchedd gweithio diogel, cefnogol a chynhwysol. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o faterion anabledd yn yr ardal leol a r cyffiniau.

Ym mis Chwefror 2017, bu r rhwydwaith yn cefnogi ymgyrch Apêl yr Arglwydd Faer, This is Me. Nod yr ymgyrch yw lleihau r stigma sy n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y gweithle a chodi ymwybyddiaeth o lesiant.

Rhwydwaith BAME

Ar gyfer staff du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), mae r rhwydwaith hwn yn cynnig cyfleodd rhwydweithio a chymorth, gan godi ymwybyddiaeth o r materion sy n effeithio ar ein staff BAME a chydraddoldeb hiliol yn fwy cyffredinol.

Mae r rhwydwaith yn meithrin cysylltiadau â rhwydweithiau allanol eraill i rannu arferion gorau ac i wella r cymorth sydd ar gael i w aelodau. Cynhaliodd y rhwydwaith nifer o ddigwyddiadau yn ystod 2016/17, gan gynnwys Mis Hanes Pobl Dduon. I nodi r achlysur, bu r rhwydwaith, yn ogystal â gweithgareddau eraill, yn dathlu celfyddydau pobl dduon, awduron a llyfrau. Bu hefyd yn cefnogi ein panel cydraddoldeb hiliol Mis Hanes Pobl Dduon a digwyddiad rhwydweithio, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â r Rhwydwaith Cyfreithwyr Du o dan ofal Freshfields Bruckhaus Deringer.

Y Rhwydwaith Cristnogol

Mae r Rhwydwaith Cristnogol yn cynnwys cydweithwyr sy n Gristnogion neu sy n ymddiddori yn y ffydd Gristnogol. Mae r rhwydwaith yn helpu staff i fyw yn ôl eu ffydd yn eu gwaith, ac mae n ymdrechu i helpu pobl i hyrwyddo a byw yn ôl eu gwerthoedd.

Yn 2016/17, cynhaliodd y rhwydwaith ddigwyddiadau ar wir ystyr y Nadolig a r Pasg a bu n hyrwyddo gwasanaethau carolau ar gyfer y gymuned fusnes ym Mirmingham.

SRA Nexus – Rhwydwaith Cyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd

Mae SRA Nexus yn rhwydwaith cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd i gyflogeion. Fe i sefydlwyd i hybu cyfleoedd cyfartal i aelodau staff LGBT+. Mae n cynnig cymorth proffesiynol a chyfrinachol, ac mae n codi ymwybyddiaeth o faterion LGBT+ yn gyffredinol.

Eleni, ymestynnodd y rhwydwaith ei gwmpas i ffurfio SRA Allies, sy’n rhoi cyfle i’r holl staff i ddangos cefnogaeth ac ymrwymiad i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.

Mae gan y rhwydwaith bresenoldeb cryf hefyd yn Pride Birmingham a Llundain, gan weithio mewn partneriaeth â rheoleiddwyr a chwmnïau cyfreithiol eraill.

Rhwydwaith Menywod

Mae’r rhwydwaith hwn yn canolbwyntio ar hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chefnogi menywod. Mae’r rhwydwaith yn galluogi ein staff i rannu profiadau, cyfleoedd a gwybodaeth, i gynnig cymorth ac i drafod materion sy’n bwysig iddynt.

Mae hefyd yn help i fagu hyder a datblygu sgiliau, ac, eleni, bu’n edrych ar faterion fel syndrom ymhonnwr, lle mae unigolion yn amau eu cyflawniadau eu hunain ac yn byw mewn ofn parhaus o gael eu hamlygu fel “twyllwr”. Mae’r rhwydwaith hefyd wedi helpu gyda’n digwyddiad Celebrating women in law: A shattering of glass, a drefnwyd gan Berwin Leighton Paisner gyda chefnogaeth Cymdeithas Cyfreithwyr Benywaidd Llundain.

Proffil y gweithlu

Cyflog yn ôl y rhywiau

Fel sefydliadau eraill gyda mwy na 250 o staff, rydym wedi cyhoeddi manylion am ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel rhan o Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr. O’i gymharu â chyfartaledd y DU o 18.4% (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2017), mae’r bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau ar draws Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr, llawn amser a rhan amser wedi’u cyfuno, yn 5.6%. Mae’r bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau ar gyfer yr Awdurdod yn 3.6%, sy’n sylweddol is na chyfartaledd y DU o 18.4%.

Mae ein proffil yn nodweddiadol o sefydliadau o’r un maint â ni, gyda llai o fenywod yn y swyddi ar y graddfeydd uchaf. Rydym yn ystyried sut y gallwn wneud yn well a gweithio i gau’r bwlch.

Rhywedd

  • Menywod – 61%
  • Dynion – 39%

Ethnigrwydd

  • Gwyn/ gwyn Prydeinig: 70%
  • Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: 17%
  • Gwrthod dweud/heb ddatgan: 4%
  • Du/du Prydeinig: 3%
  • Cymysg: 3%

Mae cynrychiolaeth pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn dal i dyfu:

  • roedd 42% o’r ymgeiswyr allanol llwyddiannus yn BAME.
  • roedd 22% o’r ymgeiswyr mewnol llwyddiannus yn Asiaidd/Asiaidd Prydeinig.

Dadansoddiad oed a gradd

Oed16-2425-3435-4445-5455-64Dros 65
Cyfanswm y gweithlu3%30%33%26%8%0.6%

Dadansoddiad gradd

Oed16-2425-3435-4445-5455-64Over 65
Rolau nad ydynt yn rheoli13%42%19%17%7%1.7%
Rolau arbenigol a rheoli1%29%35%27%7%0.4%
Penaethiaid unedau busnes a chyfarwyddwyr0%2%43%37%19%0.0%

Cyfeiriadedd rhywiol

Dywedodd 2% o staff wrthym eu bod yn hoyw neu ddeurywiol. Gwelsom ostyngiad o 5% i 11% yn nifer y staff a oedd yn dewis peidio datgan eu cyfeiriadedd rhywiol. Yn 2017, y tro cyntaf i ni ymddangos ar Fynegai Cydraddoldeb Gweithleoedd Stonewall, roeddem yn safle 241 ar y Mynegai, a oedd yn cynnwys dros 400 o sefydliadau.

Anabledd

Dywedodd 6% o staff fod ganddynt anabledd. Mae staff sy’n dweud bod ganddynt anabledd wedi’u dosbarthu’n weddol gyfartal ar draws pob graddfa gyflog.

Gwelsom ostyngiad o 11% i 3% yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yn nifer y staff a oedd yn dewis peidio â dweud a oedd ganddynt anabledd.

Digwyddiadau crefydd a ffydd

Grwpiau crefyddol wedi'u cynrychioli. Ni fydd y canrannau o reidrwydd yn gwneud cyfanswm o 100% oherwydd talgrynnu.

  • Cristnogol: 40%
  • Bwdhaidd: 0.8%
  • Hindŵ: 3%
  • Sikh: 7%
  • Mwslim: 6%
  • Iddewig: 0.5%
  • Arall: 0.6%
  • Dim crefydd: 32%
  • Heb ddatgan: 10.7%

Fel rhan o’n hymrwymiad i weithle cwbl gynhwysol, rydym wedi dal ati i drefnu ein digwyddiadau ffydd poblogaidd i staff yn ystod 2016/17. Mae’r rhain yn annog staff o bob crefydd a chefndir i ddod at ei gilydd a dathlu fel un.

Ebrill: Vaisakhi a Gŵyl y Bara Croyw

Mehefin: Ramadan

Gorffennaf: Eid

Hydref: Diwali

Rhagfyr: Y Nadolig

Daw’r holl wybodaeth o’n Hadroddiad Blynyddol ar Amrywiaeth ar gyfer 2017. Mae’r adroddiad yn cynnwys y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2017.

Rydym yn gweithio er budd y cyhoedd ac yn ystod y tair blynedd diwethaf rydym wedi bod yn trawsnewid ein dull o reoleiddio a sut yr ydym yn gweithio. Rydym wedi gweithio i wneud y ddau’n fwy parod ar gyfer y dyfodol ac i wynebu’r heriau cymhleth sydd o’n blaenau. Yn bwysicach na hyn, rydym hefyd yn gweithio i wella mynediad at wasanaethau cyfreithiol o safon uchel ac sy’n fforddiadwy i’r bobl sydd eu hangen.

Rydym wedi cyrraedd diwedd ein Strategaeth Gorfforaethol 2014 i 2017, sy’n cynnwys pedwar prif amcan. Mae’r adran hon yn egluro sut yr ydym wedi perfformio yn erbyn pob un o’r amcanion hyn yn ystod 2016/17.

Amcan un

Byddwn yn diwygio ein ffordd o reoleiddio er mwyn gallu sicrhau twf ac arloesi yn y farchnad a sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng baich rheoleiddio a diogelu defnyddwyr

Gwell gwybodaeth, mwy o ddewis

Rydym wedi gwneud cynnydd ar gynlluniau i sicrhau bod gwell gwybodaeth ar gael i bobl sy’n dewis gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth i helpu pobl i ddeall yn well y pris, yr ansawdd a’r gwasanaeth a ddarperir gan gwmnïau cyfreithiol, yn ogystal â mesurau diogelu ychwanegol y cwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod. Gwneir penderfyniadau ar y dull yn ystod 2018. Mae’r cynigion hyn yn dilyn casgliad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nad yw’r sector gwasanaethau cyfreithiol yn gweithio’n dda i’r cyhoedd, a bod angen gwell gwybodaeth i greu sector mwy agored a chystadleuol.

Edrych i’r Dyfodol

Rydym eisiau ei gwneud yn haws i bobl fanteisio ar arbenigedd cyfreithwyr ac i elwa ar eu safonau uchel, a hynny mewn ffyrdd mwy fforddiadwy. Yn dilyn ymgysylltu eang â thua 11,000 o bobl, cyhoeddwyd y bydd newidiadau’n golygu pwyslais ar safonau proffesiynol uchel a fydd ar yr un pryd yn lleihau baich costus biwrocratiaeth ar gyfreithwyr a chwmnïau. Bydd newidiadau i’n rheolau’n arwain at Lawlyfr symlach a byrrach, ar ôl ei gwtogi fwy na 300 o dudalennau. Bydd hyn yn cael gwared ar hen gyfyngiadau a fydd yn galluogi cyfreithwyr i weithio mewn marchnadoedd newydd. Bydd hefyd yn helpu cwmnïau cyfreithiol i gynnig gwasanaethau fforddiadwy mewn ffordd sy’n briodol i’w cwsmeriaid.

Mater o Ymddiriedaeth

Daeth ein hymgyrch Mater o Ymddiriedaeth i ben, lle gwelwyd 5,400 o aelodau’r cyhoedd, a’r proffesiwn, yn rhannu eu barn ar ba werthoedd a disgwyliadau maent yn eu disgwyl gan gyfreithwyr, ac y dylent eu cyrraedd. Canfu fod y cyhoedd a’r proffesiwn o’r farn mai camddefnyddio arian cleientiaid, gweithgarwch troseddol a / neu anonestrwydd yw’r troseddau mwyaf difrifol. Mae’r wybodaeth yn awr yn cael ei defnyddio i’n helpu i ddatblygu polisi gorfodi diwygiedig (ceir rhagor o fanylion o dan amcan dau).

Arloesi yn yr Awdurdod

Rydym am annog cwmnïau i arloesi a chynnig gwasanaethau newydd mewn ffyrdd newydd sy’n helpu’r cyhoedd. Rydym wedi datblygu adnoddau newydd ar y we ac rydym yn cynnig gofod diogel i gwmnïau i roi cynnig ar bethau newydd. I wneud yn siŵr bod y farchnad gyfreithiol yn ymateb i’r newid i anghenion y cleient mewn marchnad fodern, rydym wedi ymgynghori ar bolisi hawlildio newydd. Rydym yn cynnig hawlildio rhai o’n rheolau ar gyfer cwmnïau os oedd hynny’n eu galluogi i arloesi a chynnig gwasanaethau cyfreithiol mewn ffyrdd newydd, ond gan ddal i gynnig diogelwch i ddefnyddwyr ar yr un pryd.

Gwneud polisïau ar sail tystiolaeth

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein polisïau rheoleiddio yn seiliedig ar dystiolaeth. Eleni, rydym wedi ymchwilio i’r ffactorau sydd wedi gwneud i ddefnyddwyr gwyno i’w cyfreithiwr, a beth sydd yn y diwedd yn gwneud iddynt gwyno i Ombwdsmon y Gyfraith, i droi at ddulliau eraill i ddatrys anghydfodau, y llysoedd a ni. Rydym hefyd wedi ymchwilio i sut y mae’r cyhoedd yn gweld tryloywder costau cyfreithiol yn y farchnad drawsgludo. Byddwn hefyd yn defnyddio ymchwil a gomisiynwyd gennym i amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr fel tystiolaeth i helpu’r proffesiwn i adolygu sut mae’n recriwtio, yn cadw ac yn dyrchafu staff.

Gweithio â chwmnïau bach

Rydym yn parhau i weithio â chwmnïau bach sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol hanfodol mewn llawer o gymunedau lleol. Rydym yn gwneud hyn i ddeall eu busnesau ac i leihau baich rheoleiddio. Trwy hyn, a thrwy ein cysylltiad â’r Grŵp Ymarferwyr Unigol, rydym wedi creu set o adnoddau defnyddiol. Mae’r adborth hefyd wedi ein helpu i wneud ein gwefan yn haws i’w defnyddio.

Amcan dau

Byddwn yn gweithio gyda chyfreithwyr a chwmnïau i wella safonau a sicrhau eu bod yn glynu wrth egwyddorion proffesiynol craidd

Strategaeth Gorfodi

Yn dilyn yr ymchwil o’n hymgyrch Mater o Ymddiriedaeth, buom yn ymgynghori ar ffordd newydd o orfodi ein rheolau. Rydym am sicrhau bod pawb yn deall sut yr ydym yn eu gweithredu. Rydym yn cefnu ar ddull rhy ragnodol ac yn rhoi mwy o bwyslais ar safonau proffesiynol, gan sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu mewn ffordd gymesur a chyson.

Y Rhagolygon Risg

Rydym yn parhau i ddiweddaru a chyhoeddi gwybodaeth ar y risgiau yn y farchnad gyfreithiol drwy ein Rhagolygon Risg. Roedd ein pumed Ragolwg Risg blynyddol yn disgrifio cysylltiad cyfreithwyr mewn cynlluniau buddsoddi amheus fel risg allweddol sy’n cael blaenoriaeth ac unwaith eto rhoddwyd sylw i’r bygythiad parhaus o seiberdroseddau. Buom yn edrych hefyd sut y gall y sector helpu i wella mynediad at wasanaethau cyfreithiol yn ein hadroddiad, Improving Access – tackling unmet legal needs.

Prentisiaethau cyfreithwyr

Rydym yn parhau i gefnogi’r llwybr “ennill wrth ddysgu” i fod yn gyfreithiwr sy’n rhoi cyfle i bobl o bob cymuned i gael gyrfa yn y gyfraith. Bydd hyn yn gwella amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol, a bydd yn gwneud yn siŵr bod cwmnïau’n elwa ar weithlu amrywiol. Cewch ddarllen rhagor am brentisiaethau cyfreithwyr

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Mae’r Arholiad yn asesiad annibynnol sy’n sicrhau bod pob cyfreithiwr yn cyrraedd safonau uchel a chyson ym mhob pwynt mynediad o’r proffesiwn. Yn dilyn cyfnod o 18 mis o ymgysylltu â 9,000 o bobl a 500 o ymatebion i ddau ymgynghoriad, gwnaethpwyd y penderfyniad i gyflwyno’r Arholiad. Pa bynnag lwybr a ddilynir yn eu haddysg a’u hyfforddiant galwedigaethol, bydd pob darpar gyfreithiwr yn sefyll yr un arholiad mynediad i ymuno â’r proffesiwn. Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid i gyflwyno’r Arholiad ac yn 2016/17 buom yn ymgynghori ar y newidiadau i’r rheoliadau sydd angen eu gwneud cyn ei gyflwyno. Darllenwch ragor am yr Arholiad yma.

Rhybuddion

Rydym yn cyhoeddi rhybuddion i’r proffesiwn a’r cyhoedd am risgiau ac ymarfer gwael. Yn 2016/17, cyhoeddwyd rhybuddion mewn pum maes:

  • cysylltiad cyfreithwyr â chynlluniau buddsoddi amheus, sydd wedi costio mwy na £100m i’r cyhoedd
  • gohebiaeth sarhaus, lle gwelwyd cyfreithiwr yn gostwng yn is na’r safonau disgwyliedig
  • hawliadau yswiriant diogelu taliadau, a
  • hawliadau salwch ar wyliau, lle nad yw cyfreithwyr wedi gweithredu’n briodol wrth ddelio â hawliadau o’r fath
  • trefniadau ymosodol i osgoi talu trethi, i adlewyrchu’r newid yn agweddau CThEM.

Amcan tri

Byddwn yn gwella ein perfformiad wrth weithredu ac yn gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau yn gyflym, yn effeithiol ac yn effeithlon.

Datblygu sefydliadol

Rydym yn parhau i weithio i wella amseroldeb, i leihau costau ac ansicrwydd i’n cwsmeriaid a’r rhai rydym yn gweithio â hwy. Bydd hyn yn helpu i leihau costau rheoleiddio ac, yn ei dro, costau gwasanaethau cyfreithiol. Mae’r gwelliannau allweddol i’r ffordd rydym wedi gweithredu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys:

  • asesu ceisiadau gan gwmnïau mewn 23 diwrnod ar gyfartaledd, sydd wedi dod i lawr o 31 diwrnod
  • asesu ceisiadau gan unigolion mewn 10 niwrnod ar gyfartaledd, sydd wedi dod i lawr o 12 diwrnod
  • cynnal ymchwiliadau fforensig mewn 142 diwrnod ar gyfartaledd, sydd wedi dod i lawr o 203 diwrnod yn 2015.

Rydym hefyd yn parhau i weld gwelliant sylweddol yn yr amser a gymer i asesu’r pryderon a’r adroddiadau a gawn am gyfreithwyr.

Gwasanaeth i gwsmeriaid

Rydym wedi parhau i ateb 93% o’r 180,000 o alwadau i’n Canolfan Gyswllt mewn llai nag 20 eiliad. Cafodd ein llinell gymorth Moeseg 35,000 o alwadau, gyda Chynghorwyr Moeseg yn cynnig cyngor i gwmnïau a chyfreithwyr ar faterion fel achosion posibl o dorri ein Rheolau Cyfrifyddu a gwrthdaro buddiannau. Roedd ein gwasanaeth sgwrsio ar y we dienw hefyd wedi helpu bron i 4,000 o bobl y llynedd.

Moderneiddio TG

Rydym yn parhau â’n rhaglen fawr i foderneiddio ein seilwaith TG. Rydym yn parhau i weithio’n glos â’r cyhoedd, y proffesiwn a’n staff ein hunain i wneud yn siŵr ein bod yn deall ac yn diwallu eu hanghenion ac yn datblygu seilwaith TG a gwasanaethau digidol a fydd yn ateb y galw yn y dyfodol. Rydym wedi cwblhau cam cyntaf y gwaith hwn yn llwyddiannus, sydd wedi diweddaru ein systemau TG cyffredinol yn fewnol. Gallwch ddarllen mwy am ein rhaglen Moderneiddio TG yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae hwn yn faes sy’n cael blaenoriaeth gennym. Rhan bwysig o hyn yw monitro ein gwaith gweithredol i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau teg a diduedd. Eleni, roeddem am symud ymlaen o lywodraethu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant penodol, gyda’i duedd i esgeuluso’r hyn sydd yn faterion allweddol, i ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mhob agwedd ar ein gwaith. Mae’r bwrdd wedi bod yn goruchwylio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn fanwl, ac rydym wedi ymgorffori ystyriaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ein Strategaeth Gorfforaethol newydd ac rydym yn ei gynnwys yn hanfodion popeth a wnawn. Rydym yn gwneud hyn er mwyn iddo fod yn rhan naturiol o’n gwaith.

Ein gwerthoedd

Rydym yn parhau i hyrwyddo ein gwerthoedd: Annibynnol, Proffesiynol, Teg, Cynhwysol a Blaengar, ac yn ei hymgorffori yn ein gwaith i greu diwylliant o welliant parhaus. Rydym yn dathlu’r gwerthoedd hyn trwy ddigwyddiadau fel ein hwythnosau gwerthoedd, sy’n gyfle i staff i drafod ac i feddwl am yr hyn mae ein gwerthoedd yn ei olygu mewn gwaith pob dydd.

Amcan pedwar

Byddwn yn gweithio â’n rhanddeiliaid i wella ansawdd ein gwasanaethau a’u profiad wrth eu defnyddio.

Digwyddiadau a sioeau teithiol

Mae cwrdd wyneb yn wyneb â’r proffesiwn a’r cyhoedd yn ffordd o gael adborth gwerthfawr ar ein dull rheoleiddio a’n rhaglen ddiwygio. Eleni, cynhaliwyd grwpiau ffocws â’r cyhoedd ar ein rhaglen Moderneiddio TG a’r ymgynghoriad Gwell Gwybodaeth. Ein Cynhadledd Flynyddol ar Gydymffurfio oedd y fwyaf llwyddiannus eto, gyda 1,000 o gynrychiolwyr yn bresennol a 7.5 miliwn o argraffiadau ar gyfryngau cymdeithasol. Mae ein Bwrdd yn parhau i gwrdd â phobl ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Cynhaliwyd ein hail gynhadledd Ymddiriedaeth a’r Farchnad, a oedd yn dod â rheoleiddwyr o nifer o sectorau at ei gilydd i rannu eu harbenigeddau. Mae ein cynhadledd SRA Innovate yn estyn allan at gwmnïau cyfreithiol a hoffai ddarparu gwasanaethau newydd mewn ffyrdd newydd, a llwyddwyd i ddenu dros 600 o wylwyr ar periscope a dros 130,000 o argraffiadau ar gyfryngau cymdeithasol.

Gwefannau a chyfryngau cymdeithasol

Roedd ein sianelau ar gyfryngau cymdeithasol gyda’i gilydd wedi cyrraedd 800,000 yn 2016/17, cynnydd o 93% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd cyfanswm yr ymgysylltu – hoffi, rhannu, clicio – hefyd yn dangos cynnydd o 60%. Ar Legal Choices, y wefan yr ydym yn ei rhedeg ar ran yr holl reoleiddwyr cyfreithiol ar gyfer y cyhoedd, roedd ymgysylltiad cymdeithasol yn dangos cynnydd o 238% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda dros 70,000 o ryngweithiadau.

Presenoldeb rhyngwladol

Mae iclr.net, y wefan rydym yn ei rhedeg ar gyfer uwch reoleiddwyr gwasanaethau cyfreithiol ar draws y byd, yn cynnig arweiniad ar syniadau am reoleiddio gwasanaethau cyfreithiol ar draws y byd. Mae ganddi bellach tua 150 o ddefnyddwyr cofrestredig o 50 o sefydliadau mewn mwy nag 20 o awdurdodaethau.

Gweithlu modern

Fel rhan o’n gwaith i hybu proffesiwn cyfreithiol amrywiol, cynhaliwyd pedwerydd ymarferiad casglu data amrywiaeth cwmnïau, gyda 92% o gwmnïau cyfreithiol yn rhannu eu data. Gall cwmnïau ddefnyddio ein pecyn meincnodi data amrywiaeth ar-lein i weld sut mae proffil amrywiaeth eu cwmni’n cymharu ag eraill. Darllenwch ragor am yr ymarferiad casglu data diweddaraf.

Tryloywder

Rydym am wneud yn siŵr bod ein gwaith yn dryloyw a’n bod yn cyhoeddi gwybodaeth mewn ffordd eglur ac ystyrlon. Rydyn yn cyhoeddi’r holl ymatebion i’n hymgynghoriadau lle mae’r ymatebwr wedi rhoi caniatâd, Rydym hefyd yn cyhoeddi ein hymatebion ni i ymgynghoriadau sefydliadau eraill, Byddwn yn parhau i ddatblygu sut yr ydym yn darparu gwybodaeth am y rhai rydym yn eu rheoleiddio i’r cyhoedd trwy, er enghraifft, adeiladu at ein gwasanaeth Chwilio am Gwmnïau Cyfreithiol.

Ysgrifennu yn ffordd yr Awdurdod

Rydym yn parhau i adolygu ein gohebiaeth i sicrhau ei bod yn hygyrch a rhwydd i’w darllen. Eleni, cyhoeddwyd ein Hadolygiad Blynyddol mewn fersiynau Cymraeg a hawdd eu darllen. Rydym wedi cyflwyno offer nwydd i gyfieithu i’r Gymraeg ar ein gwefan ac rydym yn cyhoeddi mwy o wybodaeth yn y Gymraeg ar ein gwefan nag erioed o’r blaen.

Y cwmnïau a’r unigolion rydym yn eu rheoleiddio

  • Cyfreithwyr sy’n gweithio: 143,072
  • Cwmnïau cyfreithiol: 10,420
  • Cwmnïau cyfreithiol sydd wedi mabwysiadu trwydded strwythur busnes amgen: 681
  • Unigolion nad ydynt yn gweithio fel cyfreithwyr sydd ar y gofrestr o gyfreithwyr: 42,168
  • Cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig: 676
  • Cyfreithwyr tramor cofrestredig: 2,407
  • Cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio: 2,938

Cofnodwyd y ffigurau hyn ym mis Hydref 2017. Darllenwch ragor am y mathau o gwmnïau cyfreithiol sy’n cael eu rheoleiddio gennym.

Canllawiau moeseg

Mae ein tîm Canllawiau Moeseg yn rhoi arweiniad a chymorth i gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol ynghylch yr holl faterion sy'n ymwneud â moeseg sy'n effeithio ar eu gwaith. Cawsom 35,000 o ymholiadau yn 2016/17. Codwyd y nifer mwyaf o bryderon yn y pum maes isod:

  • cyfrinachedd a datgelu gwybodaeth
  • y Rheolau Cyfrifyddu
  • dilysrwydd a therfynu tystysgrifau gweithio
  • cytundebau cadw â chleientiaid
  • gwrthdro buddiannau.

Ymholiadau i’r Ganolfan Gyswllt

Cawsom 180,000 o alwadau i’n Canolfan Gyswllt yn ystod 2016/17. Hefyd, cafodd y Ganolfan Gyswllt 46,000 o negeseuon e-bost. Roeddent gan neu ynghylch:

Y cyhoedd

  • 90,000 o alwadau
  • 23,000 o negeseuon e-bost

Buom yn helpu pobl i wirio manylion cyfreithwyr i sicrhau eu bod y sawl roeddent yn ei honni, i adennill ffeiliau pobl o gwmni a oedd wedi cau ac yn delio â chwynion am gyfreithwyr.

Cwmnïau a chyfreithwyr

  • 56,000 o alwadau
  • 15,000 o negeseuon e-bost

Buom yn delio â galwadau am geisiadau am dystysgrifau i weithio, yn cynghori ar fabwysiadu modelau busnes newydd, ac yn helpu ag ymholiadau ynglŷn â chyfrifon MySRA.

Addysg a hyfforddiant

  • 34,000 o alwadau
  • 8,000 o negeseuon e-bost

Buom yn ateb cwestiynau cyffredin am y gyfundrefn cymhwysedd parhaus newydd a ffyrdd eraill o gymhwyso.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Gwell gwybodaeth, mwy o ddewis

Ymgynghori ar wneud gwasanaethau cyfreithiol yn fwy tryloyw i’r cyhoedd

  • Pleidleisiodd dros 14,000 o bobl ar yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy wrth ddewis cyfreithiwr
  • 4,000 o ymweliadau â chynnwys cysylltiedig ar y we
  • 1,100 o safbwyntiau ar y cynigion, er enghraifft, ein Cynhadledd ar Gydymffurfio

Moderneiddio TG

Rhaglen i fuddsoddi yn ein TG i’w gwneud yn barod am y dyfodol ac yn rhwydd i’w defnyddio

  • 70 awr o grwpiau ffocws â’r cyhoedd
  • 23 o weithdai â grwpiau cynrychioli defnyddwyr
  • mgysylltu â 450 o aelodau o’r proffesiwn

Edrych i’r Dyfodol, diwygio’r Llawlyfr

Cynigion i symleiddio ein rheolau

  • ymgysylltu ag 11,000 o bobl ar sut i wneud ein Llawlyfr yn fyrrach, yn symlach ac i ganolbwyntio ar safonau uchel
  • 300 o dudalennau rydym yn bwriadu eu tynnu ohono
  • ymgysylltu â 7,000 o bobl ar sut y dylem orfodi ein rheolau newydd

Y Gynhadledd ar Gydymffurfio 2017

Digwyddiad blynyddol sy’n helpu cwmnïau a chyfreithwyr i reoli risg

  • 1,000 yn bresennol a 1,600 wedi gwylio ar-lein, ein grŵp mwyaf o gynrychiolwyr yn y gynhadledd hyd yma
  • dywedodd 96% o’r cynrychiolwyr y byddent yn dod i ddigwyddiad tebyg eto

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr

Ein hail ymgynghoriad ar yr arholiad trwyddedu

  • 253 o ymatebion i’r ymgynghoriad
  • ymgysylltu â 6,800 o bobl trwy 45 o ddigwyddiadau
  • 4,650 o ymwelwyr â chynnwys cysylltiedig ar y we

Presenoldeb ar-lein

  • 470,000 o bobl wedi defnyddio ein cyfleuster ar-lein i archwilio record cyfreithwyr
  • 280,000 wedi defnyddio ein cyfleuster chwilio am Gwmnïau Cyfreithiol
  • Bu cynnydd o 160% yn nifer yr ymweliadau â Legal Choices
  • Gwelodd 41,000 o bobl ein tudalen ar gyfreithiau gyrru
  • Gwelodd 10,000 o bobl ein tudalen ar yr hyn ddylid ei ystyried wrth ysgaru
  • 46,000 o bobl wedi gweld gwybodaeth am yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr
  • 106,000 wedi gweld rhybuddion am gwmnïau ffug a sgamiau
  • 87,000 wedi gweld ein Rhagolygon Risg a chynnwys cysylltiedig
  • 9.6 miliwn – cyfanswm y tudalennau a welwyd yn 2016/17

Annog amrywiaeth

Fel rhan o’n hymrwymiad i annog amrywiaeth yn y proffesiwn ac yn ein sefydliad ein hunain, buom yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau i ddathlu a hybu amrywiaeth.

  • Mis Hanes Pobl Dduon, Manceinion | Cafodd ein digwyddiad Mis Hanes Pobl Dduon cyntaf ei gynnal gyda’r Rhwydwaith Cyfreithwyr Du a buom yn trafod mynediad i’r proffesiwn a chamu ymlaen ynddo.
  • Pride, Birmingham a Llundain | Am y drydedd flwyddyn, buom yn cefnogi gwyliau Pride Birmingham a Llundain, gan ddathlu’r gymuned hoyw, lesbiaidd a deurywiol ehangach a’i rôl mewn proffesiwn cyfreithiol amrywiol a modern. Daeth sefydliadau eraill o’r sector cyfreithiol i ymuno â ni yn y ddau ddigwyddiad.
  • Partneriaeth Symudedd Cymdeithasol y Gyfraith (LSMP), Birmingham | Cynhaliwyd digwyddiad gyda’r LSMP, sydd bellach yn cael ei adnabod fel y Bartneriaeth Fusnes Symudedd Cymdeithasol, sy’n gweithio i ehangu mynediad i’r proffesiwn cyfreithiol, a datblygu sgiliau hanfodol i rai o’r genhedlaeth gyntaf yn eu teulu agosaf i fynd i brifysgol, neu sydd wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Cwrdd â rhanddeiliaid ar hyd a lled Cymru a Lloegr

Buom yn ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn 142 o ddigwyddiadau, gyda 31 ohonynt wedi eu trefnu gennym ni.

  • Cynhadledd ar Gydymffurfio, Birmingham | mae bellach yn ei phumed flwyddyn, a daeth â dros 1,000 o weithwyr proffesiynol cydymffurfio at ei gilydd i drafod mesurau atal gwyngalchu arian, Brexit a rheoliadau diogelu data newydd. Croesawyd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a siaradwyr o sefydliadau allanol eraill i siarad ochr yn ochr â ni.
  • Cadw eich cwmni’n iach, Caerdydd | Buom yn trafod iechyd a llesiant, cydymffurfiaeth ariannol a gwell gwybodaeth gyda chwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
  • Legal Geek, Llundain | Buom yn trafod sut y gall cwmnïau cyfreithiol gyflwyno newid ac arloesi yn eu busnes.
  • Ymddiriedolaeth a’r Farchnad, Llundain | Daeth rheoleiddwyr o wahanol sectorau at ei gilydd i drafod sut mae gwneud yn siŵr bod rheoleiddio modern yn gymesur ac yn diwallu anghenion pobl.
  • Grwpiau Ffocws Moderneiddio TG, Abertawe, Birmingham, Leeds, Manceinion a Llundain | Buom yn cwrdd â’r cyhoedd ac aelodau’r proffesiwn i ddysgu sut y gall gwelliannau i’n system TG eu helpu i ddefnyddio ein gwasanaethau’n well.
  • Cwrdd â’r Bwrdd, Sheffield, Boston, Caerdydd | Cyfarfu ein Bwrdd ag aelodau’r proffesiwn i drafod materion cyfoes ac i glywed am faterion lleol.

Codi proffil risg

Amlygodd ein Rhagolwg Risgiau diweddaraf wyth prif risg:

  • pobl yn methu â chael gafael ar wasanaethau cyfreithiol
  • safonau gwasanaeth
  • cynlluniau buddsoddi
  • diogelwch gwybodaeth
  • diogelu arian cleientiaid
  • gwyngalchu arian
  • annibyniaeth a gonestrwydd
  • amrywiaeth yn y proffesiwn.

Cyhoeddwyd 170 o rybuddion am sgamiau i hysbysu’r cyhoedd am seiber droseddau. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd twyllwyr yn cymryd arnynt eu bod yn gyfreithwyr er mwyn rhoi’r argraff bod y twyll yn ddilys. Cyhoeddwyd pum rhybudd yn ymwneud ag arferion gweithio:

  • cynlluniau buddsoddi amheus
  • gohebiaeth sarhaus
  • hawliadau yswiriant diogelu taliadau, a
  • hawliadau salwch ar wyliau
  • trefniadau ymosodol i osgoi talu trethi.

Canlyniadau gwaith goruchwylio 2016/17

Ceir rhagor o wybodaeth am y camau disgyblu rydym yn eu cymryd, a’r diffiniad o gytundeb setliad rheoleiddio (RSA) yma.

Noder, gall un ffeil arwain at fwy nag un penderfyniad

2016/17
Achosion lle cafodd honiadau eu cadarnhau neu lle cymerwyd camau400

Canlyniad penderfyniadauCanlyniadau y cytunwyd arnynt drwy Gytundeb Setliad Rheoleiddio
Llythyr cynghori223-
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd1617
Cystwyo neu gerydd5441
Dirwy2826
Amodau a osodwyd ar unigolyn neu gwmni138
Gorchymyn adran 433411

Mae gorchymyn adran 43 yn golygu ein bod yn rhwystro unigolion nad ydynt yn gyfreithwyr, e.e. rheolwyr a gweithwyr eraill, rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.

Gwrandawiadau yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr 2016/17

Cafodd 117 o achosion eu dwyn gerbron y Tribiwnlys gennym yn 2016/17 a arweiniodd at y penderfyniadau canlynol. Noder fod un gwrandawiad yn gallu arwain at fwy nag un penderfyniad.

2016/17
Nifer yr achosion a ddygwyd 117
Diarddel59
Dirwy57
Gwahardd18
Dim Gorchymyn - h.y. y Tribiwnlys yn penderfynu yn ein herbyn 7
Penderfyniad arall 19

Y Gronfa Iawndal

Talwyd £15.2m o’r Gronfa Iawndal i’r cyhoedd a busnesau a oedd wedi dioddef colledion ariannol o ganlyniad i anonestrwydd cyfreithwyr neu gwmnïau cyfreithiol neu fethiant i ddychwelyd arian cleientiaid.

Dyma’r ddau brif reswm dros dalu iawndal i bobl:

  1. ad-dalu arian a oedd wedi’i fwriadu i dalu am flaendal am dŷ – £4m
  2. ad-dalu etifeddiaeth pobl a oedd wedi’i dwyn – £3.3m.

Roedd y taliad sengl mwyaf yn werth ychydig dros £500,000. Yn yr achos hwn, roedd cyfreithiwr wedi cymryd blaendal am dŷ a blaendal morgais client.

Rydym yn pennu’r safonau addysg a hyfforddiant ar gyfer cyfreithwyr i wneud yn siŵr bod y bobl rydym yn eu caniatáu i ymuno â’r proffesiwn yn gymwys a bod defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol yn cael gwasanaeth o safon briodol. Rydym am sicrhau bod pawb sy’n ymuno â’r gwasanaeth yn cyrraedd yr un safonau proffesiynol uchel, felly rydym yn cyflwyno arholiad cenedlaethol sengl newydd. Bydd hyn yn rhoi hyder i’r cyhoedd a’r proffesiwn mewn gwasanaethau cyfreithiol, ac yn annog mwy o hyblygrwydd a dewis o ran hyfforddiant. Bydd yr hyblygrwydd hwn, a fydd yn cynnwys opsiynau “ennill wrth ddysgu” yn helpu i annog proffesiwn mwy amrywiol, ac a fydd yn denu’r gorau a’r mwyaf disglair o bob cymuned

Prawf cymeriad ac addasrwydd

Rydym yn asesu a yw pob ymgeisydd sydd am gael ei dderbyn fel cyfreithiwr yn addas i ymuno â’r proffesiwn trwy gyfrwng ein prawf cymeriad ac addasrwydd. Mae’r cwestiynau a ofynnir gennym yn cynnwys a yw’r ymgeisydd wedi ei gael yn euog o unrhyw drosedd, a ydynt wedi bod yn destun unrhyw gamau gorfodi gan reoleiddiwr arall ac a ydynt wedi bod yn fethdalwyr erioed. Byddwn yn ystyried yr holl wybodaeth a roddir i ni gan yr ymgeiswyr ynghyd ag unrhyw dystiolaeth i ddangos eu bod wedi cymryd camau i ddiwygio eu cymeriad.

Yn 2016/17, gwrthodwyd pum ymgeisydd gennym o ganlyniad i faterion fel collfarnau troseddol, anonestrwydd, neu lle’r oedd ymgeiswyr eisoes yn destun gorchymyn adran 43 (sy’n golygu ein bod wedi eu rhwystro rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol sy’n cael ei reoleiddio gennym).

Prentisiaethau cyfreithwyr

Mae cymhwyso drwy’r llwybr prentisiaethau cyfreithwyr yn galluogi unigolion i gychwyn neu hyd yn oed newid eu gyrfa, heb y costau sy’n gysylltiedig ag addysg uwch. Mae hyn hefyd yn annog ystod fwy amrywiol o unigolion i wneud cais. Mae gan bawb, beth bynnag fo’u cefndir neu amgylchiadau, y cyfle i ddilyn gyrfa yn y gyfraith. Rydym wedi datblygu’r cynllun prentisiaeth Trailblazer yn y gyfraith gyda chyflogwyr a CILEx Regulation.

Rydym yn falch o weld bod nifer y prentisiaethau cyfreithwyr wedi cynyddu ers eu cyflwyno yn 2016.

2016: 25

2017: 75

Addysg a Hyfforddiant – geirfa

CILEx: Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol – yn rhoi hyfforddiant i bobl ddod yn weithredwyr cyfreithiol, ac yn rheoleiddio gweithredwyr cyfreithiol

CPE: Yr Arholiad Proffesiynol Cyffredinol – cwrs cyfreithiol ôl-raddedig y bydd graddedigion mewn pynciau ar wahân i’r gyfraith yn ei ddilyn er mwyn dod yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr yng Nghymru neu Loegr. Fe’i gelwir hefyd yn GDL (gweler isod).

GDL: Diploma Graddedig yn y Gyfraith – gweler CPE.

LPC: Cwrs Ymarfer y Gyfraith – cyfnod o hyfforddiant galwedigaethol cyn y PRT.

PRT: Cyfnod o Hyfforddiant Cydnabyddedig – dysgu seiliedig ar waith sy’n rhan o’r cyfnod galwedigaethol wrth gymhwyso fel cyfreithiwr.

QLTS: Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig – yn galluogi’r rheini sydd eisoes yn gyfreithwyr cymwysedig mewn awdurdodaethau eraill i gymhwyso fel cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.

QLTT: Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig – mae hwn bellach wedi dod i ben ac wedi’i ddisodli gan y GLTS sy’n llai biwrocrataidd. Mae nifer fach o unigolion yn parhau i ymuno â’r proffesiwn drwy’r dull hwn.

Y flwyddyn mewn addysg

Roedd ein hadroddiad diweddaraf ar Reoleiddio ac Addysg yn cyflwyno data gan ddarparwyr cyrsiau cyfreithiol ar berfformiad myfyrwyr ar y LPC, CPE a GDL. Y prif ganfyddiadau yn adroddiad 2015/16 oedd:

  • Roedd y cyfraddau cyffredinol ar gyfer cwblhau’r LPC a’r CPE yn weddol gyson yn achos myfyrwyr. Ond ymddengys fod gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau rhwng darparwyr.
  • Roedd gwahaniaethau sylweddol rhwng darparwyr o ran nifer y myfyrwyr sy’n sicrhau graddau pasio, clod neu ragoriaeth.
  • Mae’r data’n dangos bod myfyrwyr o grwpiau ethnig heblaw gwyn yn llai tebygol o gwblhau’r cyrsiau CPE ac LPC.
  • Mae’n ymddangos bod myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd yn perfformio gystal â'i gilydd ar y cyrsiau CPE ac LPC. Mae mwy o fenywod na dynion ar y ddau gwrs ac ar adeg derbyn.
  • Mae ein data ar darddiad ethnig y rhai sy’n dilyn cyfnodau o hyfforddiant cydnabyddedig yn llai cynhwysfawr gan fod 87% o gontractau hyfforddi cofrestredig am y cyfnod 2015–16 yn nodi bod cefndir ethnig yn “anhysbys”.

Cwrdd â’r Trailblazers

Cychwynnodd Abbi Lavill ar brentisiaeth cyfreithiwr Trailblazer ym mis Medi 2017 gyda Gowling WLG. Gwnaeth Abbi hyn ar ôl cwblhau Prentisiaeth Uwch mewn Gwasanaethau Cyfreithiol gydag Ysgol y Gyfraith CILEx.

Abbi Lavell, Cychwynnodd ar brentisiaeth cyfreithiwr Trailblazer

“Roeddwn yn bendant nad oeddwn i eisiau mynd i brifysgol a gwneud pethau yn y ‘ffordd draddodiadol’. Doeddwn i ddim am dalu’r ffioedd dysgu costus na bod mewn dyledion mawr. Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth lle’r oeddwn yn ennill cyflog, yn cael profiad ac yn dechrau ffurfio fy ngyrfa. Mae fy sgiliau’n tyfu drwy’r amser ac rwyf yn meithrin cysylltiadau â chleientiaid.”

Cychwynnodd Miriam Ahmed ar brentisiaeth cyfreithwyr Trailblazer ym mis Medi 2017 gydag Addleshaw Goddard LLP. Roedd hyn ar ôl cwblhau arholiadau lefel A mewn Astudiaethau Crefydd, Gwyddorau Cyfun a Llenyddiaeth Saesneg.

“Rwyf wedi mwynhau gweithio ac astudio ar yr un pryd. Mae fy nghwmni wedi bod yn gefnogol dros ben wrth addasu fy llwyth gwaith i ganiatáu i mi gael astudio. Mae mentor wedi ei ddewis ar fy nghyfer, a rheolwr llinell, ac mae hynny’n help mawr. Mae’r brentisiaeth yn ffordd dda iawn o gymhwyso fel cyfreithiwr. Os na fyddwn wedi cael y cyfle hwn, nid wyf yn credu y byddwn i byth wedi dilyn gyrfa yn y gyfraith.”

Cychwynnodd Holly Moore ar brentisiaeth cyfreithwyr Trailblazer gydag ITV. Roedd hyn ar ôl cwblhau arholiadau lefel A yn y Gyfraith, Llenyddiaeth Saesneg a Seicoleg.

Holly Moore, prentis cyfreithiwr Trailblazer gydag ITV

“Rwyf wedi mwynhau pob munud o fy mhrentisiaeth cyfreithiwr. Yn fwyaf arbennig, rwyf yn mwynhau defnyddio’r wybodaeth rwyf yn ei dysgu yn y brifysgol yn fy ngwaith, er enghraifft, astudio cyfraith contractau yn y brifysgol a llunio contractau yn fy ngwaith. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi faint o gyfrifoldeb a roddir i mi mor gynnar yn fy ngyrfa. Rwyf yn credu y bydd hynny’n fy mharatoi ar gyfer gyrfa hir a llwyddiannus yn y gyfraith.”

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr yn 2016/17

I wneud yn siŵr bod pob cyfreithiwr yn cael eu profi i’r un safon uchel, pa bynnag lwybr maent wedi’i ddilyn i’r proffesiwn, rydym yn cyflwyno Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Dyma fydd y safon aur i ddiogelu defnyddwyr. Bydd pobl yn gwybod bod gwybodaeth graidd a sgiliau eu cyfreithiwr wedi cael eu hasesu yn erbyn safon gyson. Mae’r amserlen isod yn dangos sut yr ydym wedi datblygu’r Arholiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Hydref 2016 i Ionawr 2017: Cyhoeddi ail ymgynghoriad

Cyhoeddwyd ein hail ymgynghoriad ar gyflwyno’r Arholiad. Buom yn ymgysylltu â mwy na 6,800 o bobl mewn 45 o ddigwyddiadau, cyfarfodydd a gweithgareddau digidol a chafwyd mwy na 250 o ymatebion i’r ymgynghoriad.

Ionawr 2017 i Ebrill 2018: Gwneud penderfyniad ar yr arholiad.

Buom yn dadansoddi ac yn ystyried yr holl ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad, gan wneud newidiadau i ffurf yr Arholiad yn dilyn adborth rhanddeiliaid. Roedd hyn yn cynnwys gwneud gradd neu gymhwyster cyfatebol a dwy flynedd o brofiad gwaith yn amod angenrheidiol i gymhwyso. Cymeradwyodd ein Bwrdd y cynigion.

Mai 2017 i Orffennaf 2017: Cyhoeddi ymgynghoriad ar reoliadau’r Arholiad

Buom yn ymgynghori ar y newidiadau i’r rheoliadau sy’n angenrheidiol i gyflwyno’r Arholiad. Mae’r rheoliadau’n ymdrin â sut y bydd cyfreithwyr cymwysedig, fel rhai o dramor, yn gwneud cais i weithio fel cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol.

Mehefin 2017 i Fedi 2017: Agor y tendr i weinyddu’r Arholiad

Gwahoddwyd sefydliadau i dendro i weinyddu’r Arholiad. Bydd angen i’r sefydliad ddarparu asesiad trylwyr, dilys a dibynadwy.

Tachwedd 2017: Cwblhau rheoliadau’r arholiad

Cadarnhawyd y pedair elfen sydd eu hangen i gymhwyso fel cyfreithiwr: gradd neu gymhwyster cyfatebol, pasio dwy ran yr Arholiad, dwy flynedd o brofiad gwaith cymhwyso, a chymeriad ac addasrwydd boddhaol.

Beth nesaf?

Yn 2018, byddwn yn penodi’r sefydliad a fydd yn gweinyddu’r Arholiad. Byddwn yn gweithio â’r sefydliad i gwblhau’r broses o ddatblygu’r Arholiad a byddwn yn parhau i ymgysylltu â chwmnïau a phrifysgolion i wneud yn siŵr eu bod yn barod ar gyfer y newidiadau.

Datblygiad proffesiynol parhaus

Rydym yn gofyn i gyfreithwyr i gynnal eu cymhwysedd trwy sicrhau bod eu gwybodaeth a’u sgiliau’n gyfoes. Mae hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cael gwasanaeth da bob amser gan eu cyfreithiwr.

Ar 1 Tachwedd 2016 daeth ein dull newydd i sicrhau cymhwysedd parhaus i rym. O dan y dull newydd hwn, nid oes angen bellach i gyfreithwyr gyfrif nifer yr oriau o ddatblygiad proffesiynol parhaus datblygiad proffesiynol parhaus maent yn ei wneud. Yn hytrach, dylai cyfreithwyr fyfyrio ar ansawdd eu gwaith, canfod unrhyw anghenion dysgu a datblygu a dilyn yr hyfforddiant perthnasol. Ar ddiwedd pob blwyddyn galendr, mae cyfreithwyr yn datgan eu bod yn gymwys i weithio yn eu maes. Yn ystod 2018, byddwn yn cynnal asesiad o effaith cychwynnol y newidiadau.

“Mae’r cam at gymhwysedd parhaus wedi bod yn brofiad positif i ni, lle mae’r pwyslais yn bendant ar ansawdd yn hytrach na faint yr hyfforddiant a geir. Mae cael y cam myfyrio’n iawn wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant, a dyma beth sy’n ysgogi popeth arall.” Clare Collins, Pennaeth Dysgu a Datblygu, Squire Patton Boggs

Hawliau uwch i wrandawiad

Mae cymhwyster hawl uwch i wrandawiad yn caniatáu i gyfreithwyr weithredu fel adfocad mewn llysoedd uwch. Y rhain yw Llys y Goron, yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys yng Nghymru a Lloegr. Gellir gweld nifer y cyfreithwyr yr ydym yn eu rheoleiddio sydd â hawliau uwch i wrandawiad, isod.


SifilTroseddolY DdauCyfanswm
Hydref 20172,131 (31%)3,272 (48%)1,464 (21%)6,867

Mynediad i’r proffesiwn

Ar hyn o bryd mae cyfreithwyr yn ymuno â’r proffesiwn trwy ddilyn un o sawl llwybr posibl. Mae’r rhain yn cynnwys gwneud gradd draddodiadol yn y gyfraith, neu radd mewn pwnc heblaw’r gyfraith a’r CPE, ac wedyn yr LPC, trwy gymhwyso fel cyfreithiwr mewn gwlad dramor o dan y QLTS, a thrwy gymhwyso fel Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig, neu CILEx. Mae’r tabl isod yn dangos nifer yr unigolion a ymunodd â’r proffesiwn trwy ddilyn pob un o’r llwybrau hyn rhwng 2014 a 2017. Noder, roedd y ffigurau hyn yn gywir ym mis Hydref pob blwyddyn. Ceir diffiniad o dermau yn yr eirfa uchod .

Route2014/152015/162016/17
LPC5,3475,5805,588
QLTT532724
QLTS485541693
CILEx186237246
Arall376748
Cyfanswm6,1086,4526,599

Gall arall olygu, er enghraifft, cymhwyso yng Ngogledd Iwerddon neu Weriniaeth Iwerddon, rhai cyfreithwyr sydd wedi’u cofrestru’n Ewrop a Chlercod Ynadon.

Ymuno â’r proffesiwn 2016/17

Mae’r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn dal i ymuno â’r proffesiwn yn yr hydref. Y rheswm yw bod y rhan fwyaf o raglenni hyfforddi dwy flynedd cwmnïau cyfreithiol yn dilyn y flwyddyn academaidd, gan orffen ddiwedd yr haf. Rydym hefyd yn gweld cynnydd bychan yn nifer y cyfreithwyr a dderbynnir gennym ar ddechrau’r flwyddyn galendr, gan fod rhai darparwyr hyfforddiant yn derbyn ail garfan o hyfforddeion ym mis Mawrth hefyd. Mae rhai darparwyr hyfforddiant hefyd yn lleihau’r rhaglen hyfforddi dwy flynedd gymaint â chwe mis os oes gan yr unigolyn brofiad gwaith perthnasol, blaenorol.

Rydym yn awdurdodi 5,497 o sefydliadau i ymgymryd â chyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig, y rhan o hyfforddiant cyfreithiwr sy’n seiliedig ar waith.

MisNifer a dderbyniwydGwrthodwyd
Tach-16350
Rhag-162680
Ion-173040
Chwe-173020
Maw-178670
Ebr-174180
Mai-173030
Meh-172342
Gorff-173460
Awst-173130
Medi-172,3913
Hyd-174960
Cyfanswm6,5995

Dulliau cyfatebol

Yn 2014, cyflwynwyd llwybr gwahanol i gymhwyso gennym sy’n galluogi unigolion i ddangos eu bod wedi ateb ein gofynion ar gyfer cyfnod penodol o hyfforddiant drwy ddulliau cyfatebol.

Er enghraifft, gall cyfreithwyr gymhwyso hyd yn oed os nad ydynt wedi cwblhau contract hyfforddi dwy flynedd gyda chwmni cyfreithiol. Os gall darpar gyfreithiwr ddangos fod ganddynt brofiad sy’n cyfateb i gontract hyfforddi, byddwn yn caniatáu i’r unigolyn hwnnw i ymuno â’r proffesiwn.

Rydym yn parhau i weld unigolion yn cymhwyso trwy’r llwybr dull cyfatebol.

2014/15: 8

2015/16: 63

2016/17 70

Wrth iddynt ddechrau gweithio yn y proffesiwn, bydd yn adeg bwysig i sicrhau bod unigolion a busnesau yn cyrraedd y safonau proffesiynol uchel mae’r cyhoedd yn eu disgwyl gan eu cyfreithiwr neu eu cwmni cyfreithiol. Rydym yn gwneud hyn drwy ymchwilio i gymeriad ac addasrwydd pobl, gan wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd ein gofynion hyfforddi ac nad oes dim perygl i’r cyhoedd wrth ganiatáu iddynt i ymuno â’r proffesiwn. Ein nod yw gwneud y broses o awdurdodi cwmnïau ac unigolion mor effeithlon a hwylus â phosibl.

Pwy ydym yn eu hawdurdodi a’u rheoleiddio

  • Rydym yn awdurdodi ac yn cyhoeddi tystysgrifau gweithio i gyfreithwyr sy’n delio â chyfraith Cymru a Lloegr, gyda’r mwyafrif helaeth ohonynt yn gweithio yng Nghymru a Lloegr. Rydym wedyn yn rheoleiddio’r cyfreithwyr hyn.
  • Rydym yn awdurdodi ac wedyn yn rheoleiddio cyfreithwyr sy’n delio â chyfraith Cymru a Lloegr dramor.
  • Rydym yn awdurdodi cwmnïau cyfreithiol a mathau eraill o fusnesau yng Nghymru a Lloegr sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol.
  • Rydym yn awdurdodi cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig a chyfreithwyr tramor cofrestredig.
  • Rydym yn awdurdodi cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio.
  • Rydym yn rheoleiddio’r rheini yr ydym yn eu derbyn ar y gofrestr o gyfreithwyr (gweler yr eirfa).

Poblogaeth cyfreithwyr 2014 i 2017

Mae gweithio fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr yn dal i gael ei weld fel gyrfa atyniadol, ac mae nifer y cyfreithwyr yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Daw’r ffigurau hyn o fis Hydref pob blwyddyn ac nid ydynt yn cynnwys cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig, cyfreithwyr tramor cofrestredig na chyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio.

BlwyddynDeiliaid tystysgrif gweithioAr y gofrestr cyfreithwyr
2015136,294171,464
2016139,313178,340
2017143,072185,240

Awdurdodi – geirfa

ABS: Strwythur busnes amgen – math o strwythur sy’n caniatáu i rai nad ydynt yn gyfreithwyr i fod yn berchen ar neu fuddsoddi mewn cwmnïau cyfreithiol.

Awdurdodi: y broses lle’r ydym yn ystyried ceisiadau gan gwmnïau ac unigolion i ymuno â’r farchnad gwasanaethau cyfreithiol.

Cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio: cyfreithwyr fel y’i disgrifiwyd gan gyfarwyddeb yr UE sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr ar delerau nad ydynt yn barhaol ac sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru a Lloegr.

Cwmni corfforedig: math o fusnes a sefydlwyd gan un neu fwy o bobl. Mae cwmnïau corfforedig yn dilyn rheolau treth a llywodraethu gwahanol, a all fod yn atyniadol i’r perchnogion, yn ddibynnol ar eu hanghenion busnes. Mae rhwymedigaeth ariannol y perchnogion hefyd yn gyfyngedig.

Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig: math o strwythur busnes lle mae dau neu fwy o bartneriaid. Mae’n cyfyngu ar rwymedigaeth ariannol y partneriaid.

Practisau amlddisgyblaethol: math o strwythur busnes amgen sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau proffesiynol eraill i gwsmeriaid, fel cyfrifyddu a thirfesur.

Partneriaeth: math o strwythur busnes lle mae dau neu fwy o bartneriaid.

Tystysgrif gweithio: dogfen sy’n caniatáu i gyfreithwyr ymarfer y gyfraith. Rhaid i gyfreithwyr adnewyddu eu tystysgrif gweithio’n flynyddol.

Cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig: cyfreithwyr sydd wedi cymhwyso yn yr UE sydd wedi’u cofrestru â ni ac y mae eu gwaith yng Nghymru a Lloegr yn cael ei reoleiddio gennym ni.

Cyfreithwyr tramor cofrestredig: cyfreithwyr o’r tu allan i’r UE a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sydd wedi’u cofrestru â ni ac y mae eu gwaith yng Nghymru a Lloegr yn cael ei reoleiddio gennym ni.

Cofrestr o gyfreithwyr: mae hon yn rhestr o gyfreithwyr sydd wedi’u hawdurdodi gennym i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y gofrestr yn ymarfer y gyfraith ar y pryd.

Ymarferydd unigol: cyfreithiwr cymwysedig sy’n rhedeg eu practis cyfreithiol eu hunain.

Hawlildiadau a’r Gofod Arloesi

Rydym am weld cwmnïau’n arloesi a thyfu mewn marchnad gyfreithiol fodern, yn gweithio mewn ffyrdd newydd, a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i’r gwasanaeth cyfreithiol sydd ei angen arnynt. Rydym yn deall y gall ein rheolau fod yn dramgwydd i gwmnïau a chyfreithwyr sy’n dymuno cynnig gwasanaethau cyfreithiol mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Mae ein polisi hawlildio a’r Gofod Arloesi yn caniatáu i gwmnïau, cyfreithwyr a newydd-ddyfodiaid yn y farchnad i edrych ar ffyrdd newydd o redeg eu busnes a chyflwyno syniadau gwreiddiol. Mae’n lle i roi prawf ar syniadau sy’n debygol o fod o fudd i’r cyhoedd ond mewn ffordd sy’n cael ei rheoli.

Ffeithiau cyflym hawlildiadau

Mae hawlildiadau’n caniatáu i gwmnïau roi cynnig ar ffyrdd gwahanol o ddarparu’r gwasanaethau mae pobl yn chwilio amdanynt.

  • Rydym yn gweld twf yn y galw am drefniadau newydd drwy hawlildiadau.
  • Rydym yn cael rhwng 100 a 150 o geisiadau am hawlildiadau bob blwyddyn.
  • Rydym yn caniatáu chwech o bob 10 cais a gawn.
  • Mae’r math mwyaf poblogaidd o hawlildiad a roddir gennym yn caniatáu i gwmnïau fod yn bractis amlddisgyblaethol. Mae hyn yn eu galluogi i arallgyfeirio eu busnes trwy gynnig cymysgedd o wasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau eraill.

Astudiaeth achos o hawlildiad

Y busnes

Mae Parental Choice yn helpu rhieni i ddod o hyd i ateb i’w gofynion gofal plant. Mae ei wasanaethau’n cynnwys arweiniad i chwilio am nani neu au pair, helpu teuluoedd i ail-leoli a rheoli’r gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig â chyflogi cymorth domestig. Roedd y Prif Swyddog Gweithredol a’r cyfreithiwr Sarah-Jane Butler yn awyddus i gynnig cyngor cyfreithiol ar fod yn gyflogwr a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau. Roedd hefyd am wneud yn siŵr bod nanis, a staff domestig eraill a oedd yn gweithio â hwy, yn gwybod beth oedd eu hawliau a’u bod yn cael eu trin yn deg.

Yr hawlildiad a ganiatawyd gennym

Caniatawyd Sarah-Jane i gynnig gwasanaethau cyfreithiol mewn busnes nad yw’n cael ei reoleiddio gennym ni na chan rheoleiddiwr cyfreithiol arall. Roedd y gwasanaethau roedd Sarah-Jane eisiau eu cynnig yn cynnwys materion cyflogaeth di-gynnen a chyngor cyfreithiol masnachol. Heb yr hawlildiad, byddai wedi gorfod cael gwasanaethau cyfreithiol o ffynhonnell arall, a fyddai wedi arwain at wasanaeth darniog ac o bosibl costau ychwanegol i’w chwsmeriaid.

Y canlyniad

Mae Parental Choice yn awr yn treialu’r gwasanaethau hyn yn ein Gofod Arloesi. Maent yn cael eu cynnig i gwsmeriaid presennol i ddechrau, a bydd yn cyfrif am tua15% o gyfanswm busnes Parental Choice. Mae’r gwasanaethau cyfreithiol sy’n awr yn cael eu cynnig gan y busnes yn sefydlu eu hunan, gydag adborth yn awgrymu bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi’r hyblygrwydd a’r amrywiaeth.

Ymarferwyr unigol a chwmnïau bach

Mae ymarferwyr unigol a chwmnïau bach yn rhan allweddol o’r farchnad gwasanaethau cyfreithiol. Yn draddodiadol, hwy oedd fwyaf cyffredin ar strydoedd mawr, gan wasanaethu anghenion cymunedau lleol, ond gallant hefyd gynnig gwasanaethau cyfreithiol mwy arbenigol. Rydym am wneud yn siŵr bod ymarferwyr unigol a chwmnïau bach yn gallu cydymffurfio â’n rheolau mewn ffyrdd sy’n gweithio orau iddynt hwy, fel y gallant barhau i gynnig gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethu eu cleientiaid yn y ffordd orau bosibl.

Astudiaeth achos | Helpu cwmnïau i wneud y dewis cywir

Rydym yn cynnig help i gwmnïau a chyfreithwyr sy’n ystyried mabwysiadu strwythur newydd neu sy’n meddwl am gychwyn busnes newydd sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol.

Y cwmni

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, buom yn delio â chais gan gyfreithiwr a oedd am sefydlu ei bractis ei hun fel ymarferydd unigol, ac a fyddai’n cynnwys gwasanaethau cyfreithiol gan arbenigol mewn mewnfudo.

Y mater

Er bod y cyfreithiwr yn rhagweld y byddai adegau pan fyddai angen iddo drin symiau bychain o arian cleientiaid, nid oedd yn dymuno agor cyfrif cleientiaid. Nid yw cwmnïau nad ydynt yn trin arian cleientiaid yn wynebu cymaint o reoleiddio am nad oes yn rhaid iddynt ddilyn ein Rheolau Cyfrifyddu. Nid oes yn rhaid iddynt ychwaith gyfrannu at y Gronfa Iawndal.

Ein hateb

Cynghorwyd y cyfreithiwr gennym y gallai ddefnyddio cyfrifon trydydd parti sy’n cael eu rheoli. Mae’r rhain yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac maent yn dal i allu cynnig diogelwch ariannol i ddefnyddwyr. Byddai’r cyfreithiwr yn dal i allu rheoli arian cleientiaid yn ddiogel, heb orfod delio â rheoleiddio diangen ar gyfer y symiau bychain o arian cleientiaid y byddai’n delio â hwy.

“Er bod y Grŵp Ymarferwyr Unigol yn dal i gynrychioli buddiannau ymarferwyr unigol, mae’r Awdurdod wedi ymgysylltu â ni mewn ffordd bositif, gan ystyried anghenion ymarferwyr unigol yn eu gwaith diwygio rheoliadau.”

Kemi Mosaku, Cadeirydd y Grŵp Ymarferwyr Unigol

Proffil amrywiaeth cwmnïau cyfreithiol

Rydym yn cydnabod bod sector cyfreithiol amrywiol, modern, gyda chyfreithwyr o bob math o gefndiroedd yn gwasanaethu anghenion cyfreithiol y cyhoedd yn well. I wneud yn siŵr ein bod yn deall ac yn rhannu dealltwriaeth o amrywiaeth cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr, rydym wedi casglu a chyhoeddi data ar y rhai sy’n gweithio yn y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio yn 2014, 2016 a 2018.

Roedd ein hymarferiad casglu data amrywiaeth 2017 yn casglu gwybodaeth gan fwy na 9,000 o gwmnïau cyfreithiol a 180,000 o bobl (cyfreithwyr ac eraill) sy’n gweithio iddynt. Rhannodd ychydig dros 90% o gwmnïau cyfreithiol eu data â ni. Gallwn weld bod y proffesiwn yn parhau i ddod yn fwy amrywiol, ond mae rhagor i’w wneud o hyd.

Rhywedd

Mae bron i hanner yr holl gyfreithwyr yn fenywod, ond dim ond traean ohonynt sy'n bartneriaid. Nid yw hyn wedi newid dros y tair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, wrth edrych yn fanylach ar y data, gwelir fod nifer y partneriaid benywaidd mewn cwmnïau mawr (50 neu fwy o bartneriaid) ar gynnydd. Mae hyn wedi cynyddu o 25% yn 2014 i 29% yn 2017.

Yn y data diweddaraf a gasglwyd gennym, roedd pobl yn gallu disgrifio eu hunaniaeth o ran rhywedd fel rhywbeth heblaw am wrywaidd neu fenywaidd. Dewisodd llai nag 1% (llai na 100) o’r holl gyfreithwyr y dewis hwn.

Cyflwynwyd cwestiwn trawsryweddol hefyd. Dywedodd tua 2% o gyfreithwyr, 2% o staff eraill ac 1% o bartneriaid eu bod yn ystyried eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i’r rhyw a bennwyd iddynt ar eu genedigaeth. Roedd yn well gan tua 3% beidio â dweud a gwrthododd 14% ateb y cwestiwn. Mae’n bwysig nodi nad oedd 13% o gyfreithwyr yn gallu ymateb i’r cwestiwn hwn am eu bod wedi gwneud trefniadau eisoes i gyflwyno data amrywiaeth a oedd yn seiliedig ar holiaduron blaenorol. Mae’r gyfradd ymateb yn cael ei phennu yn ôl y rhai a oedd yn gallu ateb.

Ethnigrwydd

Bu cynnydd yn nifer y cyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) sy’n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol, o 14% yn 2014 i 20% yn 2017. Gellir priodoli hyn i raddau helaeth i nifer y cyfreithwyr Asiaidd yn y proffesiwn, sydd wedi codi o 9% yn 2014 i 14% yn 2017. Mae canran y cyfreithwyr du yn awr yn 3%, gan godi 1% ers 2014.

Mae nifer y partneriaid o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi codi i 20%, cynnydd o 4% ers 2014. Y cwmnïau mwyaf sydd â’r gyfran leiaf o bartneriaid o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sef 8%, o’i gymharu â chwmnïau un partner lle daw 34% o’r partneriaid o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Dywedodd Paulette Mastin, Cadeirydd y Rhwydwaith Cyfreithwyr Du (BSN): “Mae’r Rhwydwaith yn cydweithio’n agos â’r Awdurdod o ran eu gwaith, a’u hymrwymiad, i sicrhau mwy o amrywiaeth a chynhwysiant yn y proffesiwn cyfreithiol, ac edrychwn ymlaen at berthynas fwy clos â’r Awdurdod yn y maes pwysig hwn o ddatblygiad y proffesiwn.”

Anabledd

Mae pobl anabl wedi’u tangynrychioli mewn cwmnïau cyfreithiol o’i gymharu â’r boblogaeth ehangach. Dim ond 3% o’r holl gyfreithwyr sy'n dweud bod ganddynt anabledd.

Bu gostyngiad bychan yn nifer y partneriaid mewn cwmnïau canolog eu maint (chwech i naw partner) sydd ag anabledd. Mae’r niferoedd yn fach, felly ni allwn ddod i gasgliadau pendant ynglŷn â’r newidiadau hyn. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd bychan er 2015 yn nifer y bobl sydd wedi dewis “gwell gen i beidio â dweud” neu nad oedd wedi rhoi ateb dilys i’r cwestiwn.

Rydym yn cefnogi cyfreithwyr ag anableddau, boed feddyliol neu gorfforol. Mae ein cynllun Eich Iechyd Chi, Eich Gyrfa Chi, a lansiwyd y llynedd, yn disgrifio sut y gallwn gynnig help ac arweiniad i gyfreithwyr y gall eu gwaith fod yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Cafwyd dros 3,000 ymweliadau â’r wefan, sy’n cynnwys enghreifftiau o’n gwaith a chyfeiriadau at sefydliadau eraill a all eu helpu.

Cyfeiriadedd rhywiol

Roedd tua 3% o gyfreithwyr yn 2014, 2015 a 2016 yn eu hystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, o’i gymharu ag amcangyfrif Stonewall o rhwng 5% a 7% o’r boblogaeth ehangach.

Roedd gwahaniaethau bychain yn ôl maint y cwmni, gydag ychydig yn fwy o ddynion hoyw mewn cwmnïau mawr na mewn rhai bach. Mae tua 3% o bartneriaid yn y cwmnïau mwyaf gyda 50 neu fwy o bartneriaid yn ddynion hoyw. Ar y llaw arall, dim ond 1% o fenywod yn y cwmnïau hyn a oedd yn dweud eu bod yn lesbiaid a dywedodd llai nag 1% eu bod yn ddeurywiol neu’n disgrifio eu cyfeiriadedd rhywiol mewn ffordd arall.

Symudedd cymdeithasol

O’i gymharu â 7% o’r boblogaeth yn y boblogaeth ehangach, mae 22% o gyfreithwyr wedi cael addysg breifat.

Er bod cyfran uchel o bartneriaid yn y cwmnïau mwyaf (50 a mwy o bartneriaid) wedi bod i ysgol lle telir ffioedd, roedd y ffigur wedi gostwng o 43% yn 2014 i 36% yn 2017. Gyda 56%, cwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau mewn cyfraith gorfforaethol sydd â’r gyfran isaf o gyfreithwyr a aeth i ysgolion y wladwriaeth. Mae cyfran uchaf y cyfreithwyr a aeth i ysgolion y wladwriaeth, 77%, yn gweithio mewn gwasanaethau cyfraith droseddol yn bennaf.

Y niferoedd sy’n gweithio’n fewnol i sefydliadau

  • Mae un o bob pum cyfreithiwr yn gweithio’n fewnol i sefydliadau:
    • Mae 66% yn gweithio yn y sector preifat
    • Mae 27% yn gweithio yn y sector cyhoeddus
    • Mae 7% yn gweithio i sefydliadau mewn sectorau eraill, er enghraifft elusennau.
  • Mae 58% o gyfreithwyr sy’n gweithio’n fewnol i sefydliadau’n fenywod. Mae eu cynrychiolaeth ar ei fwyaf yn y sector cyhoeddus, lle mae bron i 66% o gyfreithwyr yn fenywod.
  • Mae 14% o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae hyn yn ostyngiad bychan o 17% yn 2015, er ei fod ychydig yn uwch na’r boblogaeth weithio o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sef, 11%
  • Gan gyfrif am 1.5%, mae cyfreithwyr anabl sy’n gweithio’n fewnol i sefydliadau’n cael eu tangynrychioli. Mae’r grŵp hwn yn cael ei dangynrychioli’n sylweddol o’i gymharu â 3% o gyfreithwyr cwmnïau cyfreithiol a 10% o’r boblogaeth oedran gweithio ehangach.

Natur cwmnïau cyfreithiol rhwng 2014 a 2017

Mae nifer y cwmnïau cyfreithiol sy’n dewis gwneud cais am drwydded strwythur busnes amgen (ABS) yn parhau i gynyddu, ac mae’n ddewis arbennig o boblogaidd ymhlith cwmnïau corfforedig. Mae cyfanswm nifer y cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi parhau'n gymharol sefydlog. Noder fod y ffigurau hyn o fis Hydref ym mhob blwyddyn.


2016/17Is-set Strwythur busnes amgen 2016/1772015/16Is-set Strwythur busnes amgen 15/162015/14Is-set Strwythur busnes amgen 2015/14
Cwmni corfforedig4,5374774,2053693,813268
Ymarferydd unigol2,489- 2,627-2,725-
Partneriaeth1,799 301,978282,20325
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig1,5571721,5591521,550130
Arall382461451
Cyfanswm10,42068110,41555010,336424

Y tirlun rheoleiddio yng Nghymru

Mae tua 3,700 o gyfreithwyr yn gweithio yng Nghymru a 440 o brif swyddfeydd, yn bennaf yng Nghaerdydd (mae’r ffigur hwn yn amcangyfrif o ganlyniad i weithio ar draws ffiniau).

Mae tua 4% o brif swyddfeydd cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru, a dywed 1,140 o gyfreithwyr sy’n gweithio eu bod yn siarad Cymraeg. Cyhoeddwyd tua 737 o dystysgrifau gweithio yn Gymraeg y llynedd, gan helpu cwmnïau cyfreithiol i ddarparu gwasanaeth i bobl sy’n siarad Cymraeg.

Mae busnes cwmnïau cyfreithiol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru’n parhau i ffynnu. Roedd eu trosiant yn £397m yn 2016/17, bron i £30m yn uwch o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl.

Cyflymu awdurdodi

Rydym wedi gwella o ran yr amser y mae’n cymryd i gymeradwyo ceisiadau gan gwmnïau.

  • 2014/15: 39 diwrnod
  • 2015/16: 31 diwrnod
  • 2016/17: 23 diwrnod

Pob blwyddyn byddwn yn cael tua 12,000 o adroddiadau sy’n datgan pryder am y cyfreithwyr a’r busnesau cyfreithiol yr ydym yn eu rheoleiddio. Gall yr adroddiadau hyn gael eu hanfon gan y proffesiwn ei hun, er enghraifft gan gyfreithwyr neu swyddogion cydymffurfio, yn ogystal â chan aelodau o'r cyhoedd, yr heddlu a’r llysoedd.

Ein Tîm Ymchwilio sy’n cael y pryderon hyn. Bydd yn ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu a ddylid ymchwilio ymhellach ai peidio:

  • y dystiolaeth a gyflwynwyd a’i ffynhonnell
  • hanes rheoleiddiol y cwmni neu’r unigolyn
  • effaith bosibl y camymddwyn neu’r broblem honedig

Mae diogelu arian cleientiaid wrth ymchwilio neu oruchwylio cwmni yn hollbwysig. Rydym yn gweithio i sicrhau nad yw arian pobl mewn perygl o ganlyniad i unrhyw gamymddwyn neu reoli gwael. Ac mae’n bwysig bod unrhyw gwmnïau sy’n cau yn gwneud hynny yn y ffordd iawn, fel bod gwaith papur ac arian eu cleientiaid yn ddiogel.

Y broses ymchwilio

Yn ystod y broses ymchwilio a goruchwylio, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’r sawl a gyflwynodd yr adroddiad inni. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, byddwn yn rhoi gwybod iddynt pam ein bod wedi penderfynu agor neu beidio ag agor ymchwiliad i’r unigolyn neu’r cwmni y rhoddwyd gwybod inni amdanynt. Byddwn bob amser yn ceisio rhoi cymaint o fanylion â phosibl am ein penderfyniad. Gellir gweld manylion yr hyn a ddeilliodd o'n gwaith goruchwylio yma.

Gall rhai adroddiadau gael eu trosglwyddo i Ombwdsmon y Gyfraith, sy’n delio â chwynion am faterion sy’n ymwneud â gwasanaethau sy’n cael eu darparu. Yn yr un modd, os bydd Ombwdsmon y Gyfraith yn cael cwynion neu'n canfod drwy ei ymchwiliad y gallai cyfreithiwr fod wedi torri ein rheolau ar gyfer ymddygiad proffesiynol, bydd yn cysylltu â ni. Mewn achosion mwy difrifol, gallwn roi dirwy i gwmni neu unigolyn, gosod amodau ar eu tystysgrif gweithio, a hyd yn oed ymyrryd mewn practis. Mae rhagor o wybodaeth am y modd y byddwn yn ymyrryd ac yn diogelu’r cyhoedd i’w gweld yma.

Adroddiadau 2016/17, a gafwyd rhwng 1 Tachwedd 2016 a 31 Hydref 2017:

  • Cyfanswm nifer yr adroddiadau am ymddygiad cyfreithwyr neu gwmnïau: 11,879
    • Atgyfeiriwyd at yr adran oruchwylio er mwyn ymchwilio i’r ymddygiad: 6,045
    • Anfonwyd at yr adran oruchwylio ond dim angen am ymchwiliad. Yr wybodaeth yn cael ei storio fel rhan o’n gwaith ar risg: 4,067
    • Atgyfeiriwyd at Ombwdsmon y Gyfraith: 1,194
    • Atgyfeiriwyd at adran arall yn yr Awdurdod, gan ei fod mewn gwirionedd yn ymwneud â hawliad i'r Gronfa Iawndal neu'n fater i'r adran awdurdodi: 379
    • Dim camau wedi’u cymryd gan yr Awdurdod, er enghraifft, gan nad yw o fewn ein hawdurdodaeth ni i ymchwilio: 194

Natur y problemau y rhoddwyd gwybod inni amdanynt 2016/17


Y deg prif broblem y rhoddwyd gwybod amdanynt yn gyffredinolY nifer a gafwydY deg prif broblem y rhoddwyd gwybod amdanynt gan y rheini yr ydym yn eu rheoleiddioY nifer a gafwyd
1Gofalu am gleientiaid gan ddangos ddiffyg gallu neu esgeulustra neu gan achosi oedi2,006Dwyn manylion adnabod unigolyn neu endid sy’n cael ei reoleiddio (hefyd yn cynnwys gwefannau a gaiff eu clonio))470
2Manteisio’n annheg ar drydydd parti1,563Torri cyfrinacheddh216
3Dwyn manylion adnabod unigolyn neu sefydliad sy’n cael ei reoleiddio (hefyd yn cynnwys gwefannau a gaiff eu clonio)634Gofalu am gleientiaid gan ddangos diffyg gallu neu esgeulustra neu gan achosi oedi166
4Camarwain y llys yn fwriadol622Torri ein rheolau cyfrifyddu: gwneud iawn am ddiffyg yng nghyfrif cleient.158
5Twyll ac anonestrwydd525Twyll ac anonestrwydd135
6 Torri cyfrinachedd509Torri ymgymeriad134
7 Camarwain trydydd parti461Camarwain y llys yn fwriadol97
8Gwrthdaro buddiannau personol422Methiant i ryddhau dogfennau cleientiaid94
9 Methiant i fod ag yswiriant indemniad410Gweithio heb dystysgrif neu heb gofrestru91
10 Torri ein Rheolau Cyfrifyddu: methu â chyfrifyddu mewn perthynas â chleient neu eraill.391Gwrthdaro buddiannau personol87

Astudiaeth achos | Gohebiaeth sarhaus

Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau am gyfreithwyr sy’n defnyddio e-bost a chyfryngau cymdeithasol mewn modd sarhaus neu amhriodol. Mae ein canllaw yn datgan yn eglur na ddylai unrhyw ohebiaeth a anfonir at gleientiaid neu a gyhoeddir yn gyhoeddus fod yn ddifrïol, amhriodol neu fygythiol, ac ni ddylai ychwaith achosi ofn na thrallod.

Y llynedd, cymerwyd camau gennym ar ôl i gyfreithiwr gyhoeddi sylwadau cwbl amhriodol a sarhaus ar gyfrif personol ar gyfryngau cymdeithasol. Barnodd y Tribiwnlys fod un o’r sylwadau’n wrth-Semitaidd. Cawsom ein hysbysu am y sylwadau gan aelod o’r cyhoedd a’r elusen Campaign Against Antisemitism.

Dygwyd yr achos gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr am fod y cyfreithiwr wedi ymddwyn yn anonest, ac nad oedd wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n ennyn yr ymddiriedaeth mae’r cyhoedd yn ei roi mewn cyfreithwyr ac yn y ffordd mae gwasanaethau cyfreithiol yn cael eu darparu.

Cafodd y cyfreithiwr ddirwy o £25,000 gan y Tribiwnlys a’i wahardd rhag gweithio am flwyddyn, wedi’i ohirio am 12 mis. Cafodd hefyd ei orchymyn i dalu £9,595 mewn costau.

Mae gan y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol a’r proffesiwn yr hawl i ddisgwyl y byddwn yn cymryd camau pan fydd cyfreithwyr neu gwmnïau cyfreithiol yn methu â chyrraedd y safonau yr ydym wedi’u gosod. Mae ein Tîm Cyfreithiol a Gorfodi yn gweithio i orfodi ein rheolau mewn ffordd deg, gan gymryd camau cadarn pan fydd galw am hynny. Nod ein gwaith gorfodi yw:

  • diogelu cleientiaid, cyfreithwyr a’r cyhoedd – gallai hyn fod drwy reoli neu gyfyngu ar y risg o niwed, sicrhau nad yw unigolyn neu gwmni’n gallu ymddwyn yn yr un ffordd eto, neu geisio rhwystro’r peth rhag digwydd
  • cyfleu neges wrth y rheini rydym yn eu rheoleiddio i atal ymddygiad tebyg
  • cynnal a gwarchod safonau cymhwysedd a safonau ar gyfer ymddygiad moesegol
  • cynnal ffydd y cyhoedd yn y gwasanaethau cyfreithiol sy'n cael eu darparu.

Mae’r pwerau sydd gennym ni’n weddol gyfyngedig oni bai ein bod yn delio â chyrff trwyddedig (gweler isod am ragor am gosbi ac erlyn). Fodd bynnag, pan fyddwn yn cymryd camau rheoleiddio neu ddisgyblu yn fewnol, rydym yn defnyddio’r safon prawf sifil. Mae hyn yn golygu ein bod yn penderfynu pa mor debygol yw hi, ar ôl pwyso a mesur, bod unrhyw honiadau yn wir, gan wneud yn siŵr bod diogelu’r cyhoedd yn flaenoriaeth. Rydym yn erlyn materion difrifol yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae hwn yn gorff annibynnol ac mae ganddo ystod o bwerau y gall eu defnyddio. Mae’n defnyddio safon prawf troseddol, sy’n golygu bod yn rhaid profi honiadau y tu hwnt i amheuaeth resymol.

Bu rheoleiddiwr cyfreithiol y bargyfreithwyr, Bwrdd Safonau’r Bar, yn ymgynghori yn 2017 ar newid y safon prawf a ddefnyddir ganddo o droseddol i sifil. Mae wedi penderfynu gwneud hynny. Rydym wedi ei gwneud yn amlwg drwy gydol y llynedd ein bod am weld newidiadau i gyfreithwyr hefyd, gyda’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn symud i’r safon sifil, yn unol â rheoleiddwyr eraill.

Pa bryd fyddwn ni’n cymryd camau?

Pan fydd mân achosion o dorri rheolau, a’r rheini’n achosion neilltuedig, efallai y byddwn yn ysgrifennu at y cwmni neu’r unigolyn i’w hatgoffa am ein gofynion a’r safonau y mae’n rhaid eu cyrraedd. Os bydd achos o dorri rheolau’n un mwy difrifol, gallwn ddirwyo’r cwmni neu unigolyn, neu osod amodau ar eu tystysgrif gweithio. Byddwn yn erlyn yn yr achosion mwyaf difrifol.

Cosbi ac erlyn

Mae cyfyngiadau ar y mathau o gosbau y gallwn eu rhoi. Er enghraifft, mae ein pwerau i ddirwyo unigolion wedi’u cyfyngu i £2,000, ac nid oes modd inni ddiarddel cyfreithiwr. Fodd bynnag, gallwn osod dirwy o hyd at £250m ar gorff trwyddedig a dirwy o hyd at £50m ar reolwyr a chyflogeion strwythur busnes amgen.

Gall tua 25% o achosion arwain at gytundeb setliad rheoleiddio. Cytundebau yw’r rhain sy’n cael eu cytuno â chyfreithwyr a/neu gwmnïau yn ystod y broses oruchwylio, neu tra bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at y Tribiwnlys. Mae’r Cytundebau yn ffordd ymarferol o ddiogelu’r cyhoedd heb arwain at ragor o gostau.

Ein dull diwygiedig o orfodi: amserlen

Yn 2017, buom yn ymgynghori ar strategaeth gorfodi newydd, ddiwygiedig yn dilyn ein hymgyrch Mater o Ymddiriedaeth. Mae’r strategaeth ddiwygiedig yn adeiladu ar ganfyddiadau’r ymgyrch, pan ofynnwyd i’r cyhoedd a'r proffesiwn beth ddylai ddigwydd i gwmnïau a chyfreithwyr pan fydd pethau’n mynd o chwith. Mae hefyd yn cyd-fynd â’n Llawlyfr a Chodau Ymddygiad newydd ar gyfer cyfreithwyr a chwmnïau, sy’n canolbwyntio ar y safonau uchel y dylent eu cyrraedd, yn hytrach na rheolau rhagnodol y dylent eu dilyn.

Bydd y diwygiadau yn helpu i wneud yn glir beth yw’r safonau yr ydym yn eu disgwyl gan gyfreithwyr a chwmnïau, a bydd yn eu galluogi hwy a’r cyhoedd i ddeall pa bryd a sut y byddwn yn cymryd camau pan fydd pethau’n mynd o chwith.

Rhwng Gorffennaf 2015 ac Ionawr 2016: yr ymgyrch Mater o Ymddiriedaeth

Buom yn siarad â 5,400 o’r cyhoedd a’r proffesiwn am yr hyn ddylai ddigwydd pan fydd cyfreithwyr yn gwneud pethau’n anghywir mewn gwahanol amgylchiadau. Gwelwyd mai anonestrwydd a chamddefnyddio arian cleientiaid oedd yn cael eu gweld fel y troseddau mwyaf difrifol, yn ogystal ag unrhyw weithredoedd bwriadol a niweidiol eraill.

Rhwng Mehefin 2016 a Medi 2016: cam 1 Edrych i’r Dyfodol – Egwyddorion a Chodau Ymddygiad newydd

Buom yn ymgynghori ar y cam cyntaf o symleiddio a lleihau’r rheolau yn ein Llawlyfr. Ein cynnig oedd cyflwyno dau God Ymddygiad ar wahân, un ar gyfer cyfreithwyr ac un arall ar gyfer cwmnïau. Rydym eisiau i’n rheolau fod yn rhai hawdd i’w dilyn a chael gwared ar y fiwrocratiaeth yn ein rheoliadau, ond rydym hefyd eisiau bod yn gwbl glir am y safon uchel a ddisgwyliwn gan gyfreithwyr a chwmnïau.

Rhwng Medi 2017 a Rhagfyr 2017: cam 2 Edrych i’r Dyfodol

Buom yn ymgynghori ar strategaeth gorfodi ddiwygiedig, a oedd wedi cael ei hadolygu ochr yn ochr â’r adborth i’n hymgyrch Mater o Ymddiriedaeth a newidiadau i’n Llawlyfr a’r Codau. Mae’r strategaeth ddiwygiedig yn amlinellu ein dull mewn ffordd eglur a thryloyw. Mae’n parhau i roi pwyslais ar gymryd camau yn yr achosion mwyaf difrifol, gan gefnu ar ddull beichus, ticio blychau o gydymffurfio.

Beth nesaf?

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn dadansoddi’r ymatebion i gam 2 yr ymgynghoriad. Byddwn yn penderfynu pa gynigion rydym am eu mabwysiadu a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad yn 2018.

Y camau rydym ni’n eu cymryd a’r camau mae’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu cymryd

Camau a gymerwyd a’r amgylchiadauLefel y camymddwynEin cosbCosb gan y Tribiwnlys
Llythyr cynghori: rydym yn atgoffa’r unigolyn neu’r cwmni, yn ysgrifenedig, o’u cyfrifoldebau rheoleiddiol.Mân neu mae mater wedi cael ei reoli mewn modd cadarn a phriodol
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd: ar gyfer camymddwyn o bwys, ond achos neilltuedig. Gellir rhoi ystyriaeth i’r canfyddiad/canfyddiad a rhybudd wrth gynnal unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.Canolig
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd: ar gyfer camymddwyn o bwys, ond achos neilltuedig. Gellir rhoi ystyriaeth i’r canfyddiad/canfyddiad a rhybudd wrth gynnal unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.Canolig
Dirwy: Pan fu achos difrifol o weithredu’n groes i’n gofynion neu ein safonau a phan fydd, er enghraifft, y sawl neu’r cwmni sy’n cael ei reoleiddio wedi elwa’n ariannol o’r camymddwyn, a’i bod yn briodol diddymu neu leihau’r elw ariannol a wnaed.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol✔Hyd at £2,000 (fodd bynnag, gallwn roi dirwy o hyd at £250m ar strwythur busnes amgen a dirwy o hyd at £50m ar reolwyr a chyflogeion strwythur busnes amgen).✔Digyfyngiad.
Gosod amodau gweithio ar unigolyn: rydym yn cyfyngu neu’n rhwystro unigolyn rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol neu rhag ymwneud â threfniadau/cysylltiadau busnes penodol neu drefniadau gweithio.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol, a pham y mae angen delio â’r risg sy’n deillio o hyn✔ Cyfeirir at hyn fel “gorchymyn cyfyngu”.
Gosod amodau gweithio ar gwmni: byddwn yn cyfyngu neu’n rhwystro cwmni, neu un o’i reolwyr, gweithwyr neu rywun sydd â budd, rhag gwneud gweithgareddau penodol. Gall cymryd cam fel hwn helpu i fonitro’r cwmni’n effeithiol drwy gael adroddiadau rheolaidd.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol, a phan fydd gwneud hyn o fudd i’r cyhoedd ✔ Cyfeirir at hyn fel “gorchymyn cyfyngu”.
Cerydd: y Tribiwnlys yn cosbi'r sawl sy'n cael ei reoleiddio am weithredu’n groes i’n gofynion ac/neu ein safonau. Mae cerydd gan y Tribiwnlys yn cyfateb i gystwyo gennym ni.Cymharol ddifrifol, neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn gymharol ddifrifol
Gorchymyn adran 43 (ar gyfer y rheini nad ydynt yn gyfreithwyr sy’n gweithio yn y proffesiwn, e.e. rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr a gweithwyr fel ysgrifenyddion cyfreithiol): rydym yn rhwystro’r unigolion hyn rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol
Gwaharddiad neu ddiddymu’r hyn sy’n awdurdodi/cydnabod cwmni: rydym yn rhoi’r gorau i awdurdodi cwmni naill ai’n barhaol neu dros dro.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol
Gwaharddiad: y Tribiwnlys yn gwahardd cyfreithiwr rhag gweithio naill ai am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. Gall y Tribiwnlys hefyd roi gwaharddiad wedi’i ohirio, cyn belled ag y bydd gorchymyn cyfyngu yn dal yn berthnasol.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol
Diarddel: y Tribiwnlys yn rhwystro cyfreithiwr rhag gweithio’n gyfan gwbl. Caiff enw’r cyfreithiwr ei dynnu oddi ar y gofrestr o gyfreithwyr.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol

Canlyniadau gwaith goruchwylio rhwng 2014 a 2017

Cafodd y Cytundebau Setliad Rheoleiddio isod eu cytuno fel rhan o’r broses oruchwylio. Mae’r Cytundebau hyn yn ein galluogi i ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd drwy ddod ag achosion i ben yn gyflym, yn effeithiol ac am gost sy’n gymesur.

Er ei bod yn ymddangos bod cynnydd yn nifer y ffeiliau lle cafodd honiadau eu cadarnhau a lle cymerwyd camau, mae’r nifer yn dal yn debyg i’r cyfartaledd hanesyddol am y pum mlynedd diwethaf. Noder, gall un ffeil arwain at fwy nag un canlyniad.


2014/152015/162016/17
Ffeiliau lle cafodd honiadau eu cadarnhau/lle cymerwyd camau265377400

Nifer y canlyniadauCanlyniadau y cytunwyd arnynt drwy Gytundeb Setliad RheoleiddioNifer y canlyniadauCanlyniadau y cytunwyd arnynt drwy Gytundeb Setliad RheoleiddioNifer y canlyniadauCanlyniadau y cytunwyd arnynt drwy Gytundeb Setliad Rheoleiddio
Llythyr cynghori118-236-223-
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd3201911617
Cerydd neu gystwyo37265125441
Dirwy1534272826
Gosod amodau ar gwmni neu unigolyn280230138
Gorchymyn adran 433904213411

Canlyniadau y cytunwyd arnynt rhwng 2014 a 2017

Os dywed y Tribiwnlys fod achos i’w ateb gan gwmni neu unigolyn a bod y cwmni neu’r unigolyn yn cyfaddef yr honiadau, gall fod yn briodol i ddod o hyd o ganlyniad y cytunir arno. O dan ganlyniad y cytunwyd arno, bydd yr ymatebwr yn cyfaddef a byddwn yn cytuno ar set o ffeithiau, cosb a chostau. Mae’r Tribiwnlys wedyn yn penderfynu a yw’r canlyniad y cytunwyd arno’n briodol.

Fel cytundebau setliad rheoleiddio, mae canlyniadau y cytunwyd arnynt, pan yn briodol, yn ffordd gost effeithiol, gyflym a chymesur o ddatrys mater. Noder, gall ffeil â chanlyniad y cytunwyd arno fod â mwy nag un canlyniad.


2014/152015/162016/17
Ffeiliau â chanlyniad y cytunwyd arno92312

Canlyniadau y cytunwyd arnynt
Dirwy6169
Cerydd neu gystwyo397
Gorchymyn Adran 43020
Adran 47 (2) (g)113
Arall000

Gall arall olygu, er enghraifft, bod y cyfreithiwr yn cytuno i dynnu eu henw oddi ar y gofrestr eu hunain a thalu ein costau.

Mae gorchymyn 47 (2) (g) yn golygu na all cyn gyfreithiwr sydd wedi’i dynnu oddi ar y gofrestr gael ei adfer ar y gofrestr oni bai bod y Tribiwnlys yn caniatáu hynny.

Gwrandawiadau yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Dygwyd 117 o achosion gennym gerbron y Tribiwnlys yn 2016/17, a arweiniodd at y penderfyniadau canlynol. Gall un gwrandawiad arwain at fwy nag un penderfyniad.

Roedd y cynnydd o 34% yn nifer yr achosion a ddygwyd gennym gerbron y Tribiwnlys yn 2015/16 yn ganlyniad adolygiad achos llawn a gynhaliwyd gennym, ac mae effeithiau hynny i’w gweld yn awr.


2014/152015/162016/17
Nifer yr achosion a ddygwyd96129117
Diarddel537559
Dirwy305257
Gwahardd171718
Dim Gorchymyn - h.y. y Tribiwnlys yn penderfynu yn ein herbyn 737
Penderfyniad arall 101419

Gall arall olygu, er enghraifft, gystwyo neu orchymyn adran 43.

Astudiaeth achos | Cymryd arian cleientiaid

Mae cyfreithwyr yn aml yn delio â symiau mawr o arian pobl eraill ac maent yn helpu pobl pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Dyna pam fod yn rhaid i’r cyhoedd, unigolion a busnesau allu ymddiried yn llwyr ynddynt.

Yn 2016/17, buom yn ymchwilio a chymerwyd camau mewn achos lle’r oedd cyfreithiwr wedi dyfeisio anfonebau i gymryd mwy na £300,000 oddi ar glient agored i niwed, lle’r oedd yn gweithredu o dan atwrneiaeth. Roedd wedi ailgyfeirio’r arian i gyfrif banc dirgel. Bu achosion eraill hefyd o dorri ein rheolau, ein hegwyddorion a’n canlyniadau. Aethom â’r achos i’r Tribiwnlys ar y sail bod y cyfreithiwr wedi gweithredu’n anonest.

Dywedodd y Tribiwnlys fod gweithredoedd y cyfreithiwr wedi achosi niwed sylweddol i’w glient ac i enw da’r proffesiwn. Dywedodd hefyd ei fod wedi cefnu’n llwyr ar y safonau gonestrwydd, uniondeb ac ymddiriedaeth a ddisgwylir gan gyfreithwyr. Cafodd y cyfreithiwr ei ddiarddel a’i orchymyn i dalu dirwy o £70,000.

Gallwn weithredu’n gyflym os oes gennym dystiolaeth y gallai’r cyhoedd fod mewn perygl o ganlyniad i ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiwr anghymwys neu anonest. Wrth ymyrryd mewn cwmni lle y mae gennym bryderon difrifol yn ei gylch, gallwn feddiannu holl arian a ffeiliau cleientiaid a chymryd camau i’w dychwelyd i’w perchnogion. I bob pwrpas, mae’r practis yn cael ei gau ac ni fydd wedyn yn gallu gweithredu.

Pam yr ydym yn ymyrryd

Mae llawer o resymau pam y gallwn ymyrryd mewn cwmni, er enghraifft, os bydd yn ansolfent neu’n fethdalwr, neu os yw wedi’i gau. Y rhesymau mwyaf cyffredin dros ein hymyriad mewn cwmnïau yw:

  • rydym yn amau bod rhywun yn y cwmni wedi bod yn anonest
  • bu achos difrifol o dorri ein rheolau
  • mae angen i ni ddiogelu cleientiaid presennol a dyfodol y cwmni, yn ogystal â chyn gleientiaid.

Mae cyfreithwyr anonest yn risg sylweddol i’w cleientiaid, y llysoedd a’r cyhoedd, ac rydym yn debygol iawn o ymyrryd yn eu gwaith.

Nifer y cwmnïau roedden ni wedi’u cau yn 2016/17

Rhesymau dros ymyrryd rhwng 2014 a 2017

Noder, gall pob ymyriad fod â mwy nag un rheswm dros ymyrryd.

Rhesymau dros 50 o ymyriadau yn 2016/17Rhesymau dros 37 o ymyriadau yn 2015/16Rhesymau dros 40 o ymyriadau yn 2014/15
Torri ein rheolau29Amheuaeth o anonestrwydd21Diogelu buddiannau cleientiaid30
Amheuaeth o anonestrwydd29Torri rheolau gweithio cyfreithwyr18Torri ein rheolau18
Torri ein Rheolau Cyfrifyddu27Diogelu buddiannau cleientiaid16Amheuaeth o anonestrwydd16
Diogelu buddiannau cleientiaid26Torri ein Rheolau Cyfrifyddu15Torri ein Rheolau Cyfrifyddu10
Torri Rheolau Yswiriant Indemniad Cyfreithwyr14Methdaliad 5Methdaliad 4
Methdaliad2Rhoi’r gorau i weithio1Diarddel neu wahardd2
Diarddel neu wahardd2Diarddel neu wahardd1Rhoi’r gorau i weithio1
Analluog i weithio1Anfon i garchar1Analluog i weithio1




Ansolfedd1

Astudiaeth achos | Ymyrraeth ar waith

Y llynedd, ymyrrwyd mewn cwmni a oedd yn delio â chleientiaid agored i niwed. Roedd gan ei gleientiaid anawsterau ariannol difrifol ac roedd wedi cyfarwyddo cwmni rheoli dyledion i reoli eu materion ariannol. Roedd y cwmni’n trafod yr arian ar ran y cwmni rheoli dyledion.

Penderfynwyd ymyrryd yn y cwmni am ein bod yn amau anonestrwydd ar ran ei unig gyfarwyddwr. Cawsom adroddiad fod y cwmni’n cymryd arian cleientiaid. Ar ôl cynnal ymchwiliad fforensig i’r cwmni, gwelwyd fod hyn yn wir.

Pan gaewyd y cwmni gennym, cafodd ei gyfrif cleientiaid ei gau. Roedd yn rhaid i ni wedyn ad-dalu bron i 600 o bobl a oedd wedi rhoi tua £0.6m i’r cwmni i’w reoli. Roedd angen yr arian yn ôl cyn gynted â phosibl arnynt er mwyn iddynt allu talu eu credydwyr. Roedd yr arian a oedd yn ddyledus i bob un rhwng £100 a £1,500. Oherwydd nifer y cleientiaid ac am eu bod yn agored i niwed, buom yn gweithio â’n hasiantaeth ymyrryd i sefydlu llinell ffôn a chyfeiriad e-bost pwrpasol y gallai cleientiaid eu defnyddio i gysylltu â ni. Helpodd hyn ni i dalu grantiau o’r Gronfa Iawndal i gyn gleientiaid, ac i wneud yn siŵr nad oedd eu hanawsterau ariannol yn dwysau.

Cipolwg: Ymyriadau yn y degawd diwethaf

Cyrhaeddodd nifer yr ymyriadau uchafbwynt yn dilyn dirwasgiad 2008, lle’r ymyrrwyd mewn nifer o gwmnïau a oedd yn ddibynnol ar drawsgludo preswyl. Roedd hwn yn faes yr effeithiwyd yn ddrwg arno yn ystod y dirywiad economaidd. Ar ôl gostyngiad sylweddol yn 2010/11, mae nifer yr ymyriadau wedi bod yn weddol debyg am bum mlynedd.

Er bod nifer yr ymyriadau a gynhaliwyd gennym yn 2016/17 wedi cynyddu, mae’n dal yn debyg i’r cyfartaledd hanesyddol am y pum mlynedd diwethaf.

BlwyddynNifer yr ymyriadau
2007/0866
2008/0989
2009/1074
2010/1140
2011/1242
2012/1350
2013/1451
2014/1540
2015/1637
2016/1750

Sut mae’r Gronfa Iawndal yn gweithio?

Cafodd y Gronfa Iawndal ei sefydlu i dalu iawndal i’r cyhoedd a busnesau bach sy’n dioddef colled ariannol o ganlyniad i gyfreithiwr anonest neu rai nad ydynt yn dychwelyd arian gallu. Fel arfer, bydd pobl yn gwneud cais i’r gronfa ar ôl i ni ymyrryd yn y cwmni cyfreithiol roeddent yn ei ddefnyddio. Cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy'n ariannu'r gronfa drwy ardoll flynyddol, a ni sy'n ei rheoli.

Casglwyd £32 gan bob cyfreithiwr a £548 gan bob cwmni cyfreithiol yn 2016/17. Oherwydd y bygythiad cynyddol o gyfreithwyr sy’n gysylltiedig â chynlluniau buddsoddi amheus, codwyd yr ardoll i £40 gan bob cyfreithiwr a £778 gan bob cwmni yn 2017/18.

Gall pobl wneud cais i’r gronfa trwy ein gwefan, a byddwn yn cyfeirio pobl at y gronfa pan fyddwn yn ymyrryd mewn cwmni. Ar ôl i ni gael cais, byddwn yn ei asesu i wybod a all y gronfa helpu, Mae pobl sy’n gwneud cais yn aml mewn amgylchiadau anodd neu drallodus, felly byddwn yn gweithio mor gyflym ac mor gefnogol ag y gallwn.

Mae’r gronfa’n cael ei rhedeg o fewn set ddiffiniedig o reolau ac rydym yn ystyried pob cais yn ofalus. Byddwn fel arfer yn talu iawndal os yw ceisiadau’n dod o fewn ein rheolau, a bod yr aelod o’r cyhoedd neu’r busnes bach dan sylw wedi dioddef colled ariannol.

Dyma’r ddau reswm mwyaf cyffredin pam y byddwn yn gwneud taliadau:

  • Profiant: Pan fydd cyfreithwyr yn camddefnyddio etifeddiaeth rhywun.
  • Trawsgludo: Pan fydd cyfreithwyr anonest yn cymryd neu’n colli blaendaliadau, blaendaliadau morgais neu elw o werthiant.

Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn gwrthod hawliad. Er enghraifft:

  • os dylid cyfeirio’r hawliad at yswiriwr y cwmni
  • os daw’r cais gan fusnes sydd â throsiant dros £2 filiwn y flwyddyn
  • os yw’r cais am golledion sy’n deillio o weithgarwch nad yw’n rhan o fusnes arferol cyfreithiwr
  • os yw wedi’i wneud y tu allan i’r terfyn amser
  • os yw’n ganlyniad i fethiant ar ran y client i edrych ar ôl eu harian yn ddigon gofalus.

Rydym yn monitro faint yr ydym yn ei dalu o'r Gronfa Iawndal bob blwyddyn a'r math o geisiadau a ddaw i law. Mae’r cynnydd yn nifer yr ymyriadau yn 2016/17 yn golygu bod yr arian rydym wedi’i dalu hefyd wedi cynyddu. Eleni, talwyd £15.2m. Rydym hefyd yn monitro risgiau newydd i’r cyhoedd a’u harian. Er enghraifft, mae cynlluniau buddsoddi amheus sy’n ymwneud â chwmnïau cyfreithiol eisoes wedi costio dros £100m i'r cyhoedd.

Cipolwg: Grantiau’r Gronfa Iawndal rhwng 2012 a 2017

Mae cydberthynas agos rhwng taliadau a wneir gennym bob blwyddyn a nifer yr ymyriadau a wneir gennym, er eu bod hefyd yn dibynnu ar werth y ceisiadau unigol. Er bod cynnydd wedi bod yn y swm rydym wedi’i thalu o’r gronfa, mae’n dal yn debyg i’r cyfartaledd hanesyddol am y pum mlynedd diwethaf.

Blwyddyn Cyfanswm a dalwyd mewn grantiau
2012/13£15.8m
2013/14£23.6m
2014/15£17.8m
2015/16£10.3m
2016/17£15.2m

Rheoli arian cleientiaid, ffeiliau a cheisiadau i’r Gronfa Iawndal

Pan fyddwn yn ymyrryd mewn cwmni, byddwn yn cymryd yr holl ffeiliau o’i swyddfa ac yn cysylltu â chleientiaid i egluro’r hyn sydd wedi digwydd. Rydym yn gweithio â’n hasiantau ymyrryd i gymryd cyfrifoldeb am arian y cleientiaid sydd yng nghyfrifon y cwmni ac unrhyw ffeiliau cleientiaid. Bydd ein hasiant, cwmni cyfreithiol fel arfer, yn delio â materion brys sydd gan gleientiaid. Bydd yn ymchwilio i weld pa ffeiliau sy’n perthyn i bwy, fel y gallwn gysylltu â’r cleientiaid a rhoi gwybod iddynt ein bod wedi cau’r cwmni. Bydd yr asiant hefyd yn cynghori cleientiaid y cwmni ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.

Os nad yw ffeil y client yn un frys neu os yw’n segur, byddwn yn ei harchifo yn ein cyfleusterau yn Coventry neu Darlington. Mae’r archif yn cael ei rhedeg gan Capita. Mae’n delio â cheisiadau gan gleientiaid am eu papurau. Rydym yn dadansoddi ac yn ail-greu cofnodion cyfrifyddu’r cwmni ac yn ceisio dychwelyd arian y cleientiaid iddynt. Yn aml bydd arian ar goll o gyfrifon cleientiaid. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall cleientiaid nad ydynt wedi cael eu harian yn ôl wneud cais i yswirwyr y cwmni neu i’r Gronfa Iawndal.

Astudiaeth Achos | Y Gronfa Iawndal ar waith

Roedd y grant mwyaf a dalwyd o’r Gronfa Iawndal yn 2016/17 yn £500,000. Caewyd cwmni gennym a oedd yn cynnig gwasanaethau preifat a thrawsgludo i gleientiaid ar ôl amheuaeth o anonestrwydd ar ran y cyfreithiwr.

Roedd y cyfreithiwr yn gweithredu ar ran y gwerthwr mewn trafodiad trawsgludo. Cwblhawyd y gwerthiant, ac anfonodd cyfreithiwr y gwerthwr yr arian prynu at y cwmni. Yn hytrach na thalu’r morgais ar yr eiddo, cymerodd y cyfreithiwr yr arian. Talwyd grant gennym o’r Gronfa Iawndal er mwyn talu’r morgais, Roedd hyn yn caniatáu’r prynwr i gwblhau’r pryniant a’i gofrestru â’r Gofrestrfa Tir

Daeth i’r amlwg bod y cyfreithiwr wedi bod yn cymryd arian oddi ar bobl eraill hefyd, a oedd yn golygu bod diffyg o fwy na £1m yn y cyfrif cleientiaid. Yn ddiweddarach, cafodd ei ddiarddel gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Y Prif ffigurau ar gyfer 2016/17

  • Ceisiadau a wnaethpwyd: 2,174
  • Ceisiadau a gaewyd: 1,710*
  • Ceisiadau a arweiniodd at daliad: 680
  • Cyfanswm gwerth y ceisiadau a gaewyd: £15.2m
  • Gwerth cyfartalog cais: £22,000

*Noder, nid yw’r rhain o reidrwydd yn yr un grŵp o geisiadau â’r rhai a wnaethpwyd yn 2016/17.

Y pum prif reswm dros wneud taliadau rhwng 2014 a 2016


Rheswm am y cais 2014/15TaliadRheswm am y cais 2015/16TaliadRheswm am y cais 2016/17Taliad
1Blaendal (eiddo ac arall)£3.5mProfiant£3.9mElw o werthiant£4.0 m
2Profiant£3.4mElw o werthiant£1mProfiant£3.3 m
3 Arian wedi’i dalu ond y gwaith heb ei wneud£2.2mArian cleientiaid yn gyffredinol£1mBlaendal (eiddo ac arall)£2.6 m
4Codi gormod £1.8mBlaendal (eiddo ac arall)£700kIawndal (er enghraifft, am anafiadau personol)£0.8 m
5Twyll morgais£1.8mTwyll trawsgludo£700kTwyll morgais£0.8 m

Dal arian ar ymddiriedolaeth ac adennill costau

  • £5.5m – y swm y llwyddwyd i’w adennill mewn costau a grantiau’r Gronfa Iawndal yn 2016/17

Os na allwn ddychwelyd arian cleientiaid i’w berchennog ar unwaith ar ôl cau cwmni, rydym yn ei ddal mewn ymddiriedolaeth statudol. Rydym yn cymryd camau i chwilio am y perchennog, a bydd hynny’n dibynnu ar faint o wybodaeth sydd gennym am yr unigolyn a faint o arian sydd dan sylw. Er enghraifft, y llynedd dychwelwyd £30,000 i unigolyn a oedd mewn sefyllfa ariannol fregus. Roeddent wedi eu gwneud yn fuddiolwyr ymddiriedolaeth fwy na 10 mlynedd yn ôl ond nid oedd ganddynt syniad i ble roedd yr arian wedi mynd. Yn achos symiau mawr o arian rydym wedi gwneud ymdrechion mawr i ddod o hyd i bobl, gan gynnwys cyflogi asiantaeth ymchwilio a mynd i gartref rhywun gyda siec. Weithiau, mae’r bobl rydym yn chwilio amdanynt yn byw dramor, felly byddwn wedyn yn cyfarwyddo asiant ymchwilio tramor.

Rydym yn ymdrechu i adennill y costau ymyrryd, y grantiau a delir o’r Gronfa Iawndal a chostau llys ac ymchwilio mewnol gan y cwmni dan sylw. Daw ein harian gan y cwmnïau cyfreithiol a’r cyfreithwyr sy’n cael eu rheoleiddio gennym, felly mae adennill costau’n bwysig gan eu bod yn y pen draw’n cael eu trosglwyddo i’r cyhoedd sy’n prynu costau cyfreithiol. Rydym yn dilyn pob trywydd posibl i adennill costau, ac mae hynny’n cynnwys cyfreithwyr neu reolwyr sy’n destun ymyriad, yswirwyr y cwmni ac, mewn rhai amgylchiadau, partneriaid a chyfarwyddwyr y cwmni.

Y llynedd, llwyddwyd i adennill gwerth £1m o grantiau’r Gronfa Iawndal oddi ar yswirwyr cwmnïau. Roedd y cwmni wedi bod yn defnyddio arian cleientiaid i dalu ei alldaliadau. Mewn achos arall, buom yn gweithio â’r heddlu i adennill £150,000 o grantiau’r Gronfa Iawndal o asedau wedi’u rhewi. Roedd y cyfreithiwr wedi bod yn cymryd arian o etifeddiant pobl, ac yn ddiweddarach cafodd ei ddiarddel a’i garcharu.

Astudiaeth achos | Bygythiad cynyddol cynlluniau buddsoddi amheus

Mae twyllwyr wrthi’n barhaus yn meddwl am ffyrdd o ennyn ymddiriedaeth pobl ac yna cymryd eu harian. Maent yn cynnig cyfleoedd buddsoddi sy’n cynhyrchu enw sylweddol fel ffordd o gymryd arian pobl, er enghraifft o’u cronfa bensiwn. Byddant weithiau’n ceisio defnyddio cwmnïau cyfreithiol fel canolwyr mewn ymdrech i wneud i gynlluniau buddsoddi amheus ymddangos yn gredadwy a diogel, gan gynnig mwy o elw i bobl am eu harian nag y byddent yn ei gael drwy fuddsoddiadau traddodiadol.

Mae mwyafrif helaeth y cyfreithwyr yn ymddwyn mewn ffordd gwbl onest. Ond mae nifer fach yn cymryd mantais ar y ffordd mae pobl yn ymddiried ynddynt neu maent yn fodlon mentro trwy helpu cynlluniau nad ydynt yn eu deall. Mae rhai pobl wedi colli eu holl gynilion. Mewn rhai achosion rydym yn delio â hwy, dywed pobl eu bod wedi colli dros £100m.

Mathau o gynlluniau

Mae rhai enghreifftiau o gynlluniau buddsoddi amheus yn cynnwys y canlynol:

  • Prydlesu ystafelloedd mewn gwesty, unedau storio a’u tebyg a thalu costau trawsgludo cysylltiedig. Ni allwn weld pam y byddai rhywun sy’n dymuno buddsoddi mewn busnes gwesty brynu ystafell sy’n cynnwys trawsgludo costus, na pham y byddai cynllun o’r fath yn cynhyrchu elw mawr.
  • Bancio tir. Dyma pan fydd pobl yn prynu llain fechan o dir ar ôl cael eu perswadio y bydd ei werth yn codi’n sylweddol os ceir caniatâd cynllunio i’w ddatblygu. Yn yr achosion rydym ni wedi eu gweld, ni roddwyd caniatâd ac nid yw byth yn debygol o gael ei roi.
  • Masnachu mewn diemwntau, gwinoedd da, graphene a metelau daear prin. Gellir prynu a gwerthu nwyddau fel diemwntau a gwinoedd ond nid oes ffordd arbennig o wneud elw mawr.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ac mae mathau newydd o gynlluniau buddsoddi’n ymddangos drwy’r amser. Mae ein rhybuddion yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Camau rydym yn eu cymryd

Rydym wedi cyhoeddi dau rybudd i’r proffesiwn ac i’r cyhoedd, sy’n eu rhybuddio i beidio ymwneud â chynlluniau o’r fath. Rydym hefyd wedi cymryd camau yn erbyn cwmnïau sy’n gweithredu fel wyneb i gynlluniau “enillion cyflym”. Bu cynnydd mewn camau gorfodi hefyd.

Cafodd un cyfreithiwr ei ddiarddel a’i orchymyn i dalu £67,000 mewn costau ar ôl iddo gael ei ddal yn gweithredu ar ran cwmnïau buddsoddi a oedd yn cynnig cyfleoedd i fasnachu mewn diemwntau a gweithiau celf, ymhlith pethau eraill. Roedd rhyw 24 o wahanol fuddsoddwyr wedi talu cyfanswm o fwy na £400,000 i’r cyfrif cleientiaid. Fodd bynnag, ni chafodd rhai buddsoddwyr y nwyddau roeddent yn eu disgwyl. Roedd y cyfreithiwr hefyd wedi cymryd ffioedd o gronfeydd y buddsoddwyr, er nad oedd y cwmni a’r buddsoddwyr wedi cytuno ar hyn.

Dywedodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr nad oedd ganddo ddim amheuaeth fod cysylltiad y cyfreithiwr yn y trafodion hyn wedi rhoi elfen o barchusrwydd iddynt.

Mae gwyngalchu arian yn digwydd pan fydd troseddwyr yn cuddio neu’n trawsnewid yr elw o droseddu i fod yn asedau cyfreithlon, fel tai neu gwmnïau. Mae arian hefyd yn cael ei symud o gwmpas i ariannu terfysgaeth.

Mae troseddwyr yn gwneud eu harian drwy droseddau fel twyll, masnachu mewn pobl neu gyffuriau a masnachu mewnol. Gall y gweithgareddau hyn gynhyrchu elw neu arian ar raddfa fawr. Mae gwyngalchu arian yn gwneud i’r enillion hyn ymddangos fel incwm gonest.

Pam fod hyn yn ein pryderu?

Mae cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn atyniadol i droseddwyr gan eu bod yn prosesu symiau mawr o arian, am fod pobl yn ymddiried ynddynt a’u bod yn gallu trosglwyddo arian mewn ffordd sy’n ymddangos yn onest. Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithiol yn gweithio’n galed i adnabod achosion o wyngalchu arian, ond mae llawer o gwmnïau’n cael eu tynnu i mewn iddo’n ddiarwybod iddynt.

I ni mae gwyngalchu arian yn fater difrifol iawn. Rydym yn ymchwilio i bryderon ac yn gweithredu pan fydd angen. Ac rydym hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r risgiau i gwmnïau cyfreithiol a’r bygythiadau i bob un ohonom yn sgil gwyngalchu arian.

Un enghraifft o wyngalchu arian rydym yn ei weld yn y sector cyfreithiol yw lle mae troseddwyr yn defnyddio enillion troseddu i brynu tai ac yna’u gwerthu. Mae cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn gwneud gwaith trawsgludo’n rheolaidd, ac mae maint y busnes yn golygu bod yn rhaid bod yn ofalus i sylwi nad oes dim gweithgarwch anghyfreithlon yn digwydd.

Enghraifft arall yw lle mae pobl yn defnyddio cyfreithiwr neu gwmni cyfreithiol i sefydlu cwmni neu ymddiriedolaethau ffug. Mae troseddwyr yn cuddio eu harian yn y cwmnïau hyn, sy’n edrych fel rhai dilys.

Yn y cyfnod diweddar

Cyhoeddodd y llywodraeth ei hasesiad risg diweddaraf ar fynd i’r afael â gwyngalchu arian yn 2017. Roedd yn tynnu sylw at 11 maes risg uchel lle mae gwyngalchu arian yn digwydd, ac mae gan dri ohonynt gysylltiad uniongyrchol â’r diwydiant cyfreithiol. Y rhain yw gwasanaethau cyfreithiol cyffredinol, eiddo a gwasanaethau asiantaethau eiddo ac ymddiriedolaethau a strwythurau corfforaethol.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r bygythiad cynyddol o ymosodiadau terfysgol wedi arwain at fwy o bwyslais ar ffyrdd o atal gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth. Hefyd, roedd ryddhau Papurau Panama yn 2016 wedi datgelu goleuni ar strwythurau corfforaethol lle nad yw’n amlwg pwy sy’n berchen ar sefydliad. Mae hyn wedi arwain at fwy o dryloywder o ran perchnogaeth cwmnïau. Yn 2017 cafodd rheoliadau gwrth wyngalchu arian newydd eu cyflwyno. Nod y Bedwaredd Gyfarwyddeb Gwyngalchu Arian yw mynd i’r afael â gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth trwy gryfhau mesurau amddiffynnol yr UE. Yn y DU mae hyn wedi arwain at y ddeddfwriaeth Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Cyllid (Gwybodaeth am y Talwr) 2017. Y nod hefyd yw gwneud yn siŵr bod safonau holl aelod-wladwriaethau’r UE yn cyfateb â rhai’r Tasglu Gweithredu Ariannol (FATF) rhyngwladol. Hefyd, bydd rheoleiddiwr goruchwylio newydd y Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Cyhoeddus (OPBAS), yn ein goruchwylio ni a rheoleiddwyr proffesiynol eraill.

Beth yw FATF ac OPBAS?

Mae OPBAS yn gorff newydd, a sefydlwyd i oruchwylio gwaith gwrth wyngalchu arian 22 o gyrff proffesiynol, gan ein cynnwys ni. Bydd yn adolygu ansawdd y gwaith rydym ni a’r sefydliadau eraill yn ei wneud. Bydd yn gweithio i sicrhau bod y safonau’n gyson rhwng yr holl sefydliadau, a bydd yn gwneud argymhellion ar sut i’w gwella os bydd angen.

Mae FATF yn sefydliad byd-eang sy’n pennu safonau rhyngwladol ar ffyrdd effeithiol o fynd i’r afael â gwyngalchu arian. Mae’n adolygu technegau gwyngalchu arian a’r gwrth fesurau a ddefnyddir gan y gwledydd sy’n aelodau. Mae’n gweithio â llywodraethau, rheoleiddwyr ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Mae hefyd yn canfod gwendidau yn systemau ariannol y gwledydd, ac yn ymdrechu i atal y systemau hyn rhag cael eu targedu gan droseddwyr.

Eleni, bydd FATF yn ymweld â’r DU ac yn asesu a yw’r safonau a bennir yn cael eu cyflawni. Wrth asesu’r DU, bydd FATF yn edrych pa mor effeithiol yw ei dull o atal gwyngalchu arian, ac a yw’n cyflawni’r canlyniadau dymunol. Bydd yr ymwelwyr hefyd yn edrych ar y deddfau, y rheoliadau ac offerynnau cyfreithiol eraill sydd ar waith i fynd i’r afael â gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth.

I baratoi ar gyfer yr ymweliad, rydym wedi cyflwyno gwybodaeth am sut yr ydym yn monitro gwyngalchu arian i FATF trwy’r Trysorlys. Cyn diwedd y flwyddyn, bydd FATF yn cyhoeddi canlyniadau ei asesiad o’r DU, a fydd yn cynnwys asesiad o’r sector cyfreithiol.

Beth yw effeithiau’r rheolau a’r rheoliadau newydd?

O dan y rheoliadau gwyngalchu arian newydd, Deddf Enillion Troseddau 2002 a Deddf Terfysgaeth 2000, mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithiol eisoes nifer o rwymedigaeth broffesiynol o ran gwyngalchu arian. Fodd bynnag, o dan y rheolau newydd, bydd nifer o reoliadau newydd a fydd yn effeithio ar gwmnïau.

Gweithgarwch monitro

Bydd yn rhaid i’r cwmnïau a’r cyfreithwyr rydym yn eu rheoleiddio ddweud wrthym os ydynt yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol sy’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hyn. Mae enghreifftiau o feysydd sydd â risg uchel o weithgarwch gwyngalchu arian yn cynnwys gwasanaethau eiddo ac asiantaethau eiddo, a chysylltiad cyfreithwyr mewn ymddiriedolaethau a gwaith corfforaethol. Mae’r meysydd hyn wedi’u nodi yn yr Asesiad Risg Cenedlaethol.

Monitro unigolion

Rhaid i bobl sydd â rheolaeth sylweddol dros y ffordd mae cwmni’n cael ei redeg, fel rheolwyr a pherchnogion llesiannol cwmnïau, gael eu cymeradwyo gennym ni i barhau i gynnig gwasanaethau cyfreithiol sy’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau.

Monitro cwmnïau

Rydym hefyd yn bwriadu cael sgôr risg ar gyfer pob cwmni sy’n cynnig gwasanaethau sy’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau. Byddwn yn cyhoeddi asesiad risg yn uniongyrchol i gwmnïau ar y meysydd hynny y tybiwn sy’n golygu’r risg mwyaf o wyngalchu arian. Bydd y risg yn cael ei phennu ar sail nodweddion y cwmni.

Ffeithiau cyflym am wyngalchu arian

  • £24bn | Swm yr arian sy’n cael ei wyngalchu yn y DU bob blwyddyn
  • 419,451 | Nifer yr adroddiadau o weithgarwch amheus a gafwyd yn y DU yn 2015/16
  • 10% | Y cynnydd yn y Cytundebau Setliadau Rheoleiddio yn y flwyddyn yn y DU o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol
  • 4,878 | Nifer yr adroddiadau a gafodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol annibynnol rhwng Hydref 2015 a Mawrth 2017. Rydym yn rhagweld y byddwn yn gweld mwy yn y flwyddyn i ddod
  • 216 | Nifer yr adroddiadau a gawsom yn ymwneud â gwyngalchu arian yn 2016/17
  • 67% | Canran y cwmnïau sy’n dod o fewn cwmpas y rheolau gwyngalchu arian newydd, neu 84,000 o unigolion

Mae 2017/18 yn nodi cychwyn ein Strategaeth Gorfforaethol dair blynedd newydd sy’n rhoi pwyslais ar safonau uchel ar gyfer cyfreithwyr ac sy’n hyrwyddo dewis yn y farchnad i’r cyhoedd. Am y tro cyntaf, rydym wedi ymgynghori ar ein Strategaeth Gorfforaethol ac wedi defnyddio adborth i gwblhau’r strategaeth.

Amcan un:

Byddwn yn pennu ac yn gweithredu safonau proffesiynol yn gyson i’r unigolion a’r cwmnïau hynny rydym yn eu rheoleiddio i wneud yn siŵr eu bod yn briodol i wynebu heriau heddiw a’r dyfodol

Cymhwysedd parhaus

Mae ein dull diwygiedig yn helpu i gynnal safonau uchel trwy wneud datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn rhywbeth mwy perthnasol trwy gael gwared ar yr angen i gael nifer penodol o oriau DPP. Yn hytrach, rydym yn gofyn i gyfreithwyr wneud datganiad blynyddol eu bod yn gymwys i weithio, eu bod wedi cael hyfforddiant perthnasol, a bod eu gwybodaeth gyfreithiol yn gyfoes. Ar ôl cyflwyno ein dull newydd ar gyfer DPP ym mis Tachwedd 2016, byddwn yn gwerthuso ei effaith.

Gwneud polisïau ar sail tystiolaeth

Byddwn yn cyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil a dadansoddi trwy gydol y flwyddyn, a fydd yn rhan o’r sail dystiolaeth ar gyfer ein diwygiadau polisi a’r gwaith sydd yn yr arfaeth. Byd ein rhaglen ymchwil yn cynnwys gwaith i ddeall barn y cyhoedd am wasanaethau cyfreithiol. Bydd yn cynnwys pwyslais arbennig ar oblygiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, i’r proffesiwn ac i’r cyhoedd.

Eiriolaeth droseddol

Byddwn yn parhau i gynnal safonau eiriolaeth droseddol yn y llysoedd ieuenctid, yn dilyn cyflwyno pecyn cymorth arbenigol i gyfreithwyr sy’n gweithio yn y maes hwn, a gwybodaeth hawdd ei chael i bobl ifanc. Rydym yn bwriadu cyhoeddi adolygiad thematig o eiriolaeth droseddol a byddwn yn parhau i adolygu datblygiad system i sicrhau ansawdd eiriolwyr.

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr

Byddwn yn gweithio i gyflawni safonau proffesiynol uchel, ffydd y cyhoedd a buddiannau amrywiaeth yr Arholiad. Byddwn yn penodi asiantaeth gyflawni ac yn cydweithio’n glos â darparwyr addysg a hyfforddiant a chwmnïau wrth i ni gyflwyno’r arholiad a’r trefniadau pontio. Ein bwriad yw cyflwyno’r arholiad yn ddim cynharach na Medi 2020.

Edrych i’r Dyfodol

Mae ein rhaglen ddiwygio’n rhoi pwyslais amlwg ar safonau proffesiynol uchel a lleihau biwrocratiaeth ddiangen, lleihau costau a chael gwared ar gyfyngiadau ar sector cyfreithiol agored a chystadleuol. Byddwn yn cynnal adolygiad llawn o’n Llawlyfr a byddwn yn creu cyfres lawn o reolau a rheoliadau i gymryd lle’r Llawlyfr presennol yn 2019. Bydd yn barod i’w gyhoeddi yn y flwyddyn ganlynol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae gweithio tuag at broffesiwn cyfreithiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir ganddo yn flaenoriaeth. Byddwn yn parhau i hybu cydraddoldeb yn y sector cyfreithiol, gan gydweithio’n agos â’r proffesiwn a grwpiau o fewn y proffesiwn. Byddwn hefyd yn cyhoeddi deunydd ategol fel adolygiadau thematig, ymchwil a chanllawiau. Rydym yn symleiddio ein gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn, gyda phwyslais ar:

  • proffesiwn amrywiol
  • gwneud penderfyniadau teg
  • goblygiadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i’n diwygiadau rheoleiddio
  • ymgysylltu cynhwysol
  • systemau TG a busnes hygyrch.

Amcan dau

Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein gofynion rheoleiddio yn gymesur, gan roi hyblygrwydd i gyfreithwyr a chwmnïau i arloesi ac i ddiwallu anghenion y cyhoedd a busnesau’n well, a chan gynnal mesurau priodol i ddiogelu’r cyhoedd.

Camau disgyblu cynnar

Byddwn yn gwella ein prosesau i ddeall yn well pan fydd achos yn debygol iawn o fynd gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae cael cyngor cyfreithiol yn gynnar yn fwy tebygol o fod yn ffordd fwy effeithiol a syml o reoli ein hadnoddau.

Diogelu defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol

Rydym am wneud yn siŵr bod mesurau diogelu priodol ar gael i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol. Byddwn yn ystyried adolygu trefniadau i ddiogelu materion ariannol defnyddwyr (yswiriant indemniad proffesiynol a’n Cronfa Iawndal) i wneud yn siŵr eu bod yn ateb y galw.

Casglu data amrywiaeth

Ar ôl cyflwyno cwestiynau trawsryweddol yn 2017, rydym yn bwriadu gwneud mwy o waith ar symudedd cymdeithasol, yn unol â mesurau economaidd gymdeithasol newydd Swyddfa’r Cabinet. Byddwn yn cyhoeddi’r data ac yn annog cwmnïau i feincnodi eu proffiliau. Rhagolwg Risgiau pwrpasol. Mae’r achos busnes ar gyfer amrywiaeth hefyd yn edrych ar fuddiannau proffesiwn amrywiol a cynhwysol.

Amcan tri: Byddwn yn cynyddu argaeledd gwybodaeth berthnasol ac amserol i helpu pobl i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth yn y farchnad gwasanaethau cyfreithiol.

Gwell gwybodaeth a mwy o ddewis i’r cyhoedd

Rydym wedi ymgynghori ar ddatblygu cofrestr ddigidol a byddwn yn gweithio i gyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, a gwella argaeledd data rheoleiddio a hybu dewis i’r cyhoedd. Er mwyn helpu defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol byddwn yn ystyried sut y dylai cwmnïau fod yn cyhoeddi eu prisiau a gwybodaeth arall. Byddwn hefyd yn gweithio â’r cyhoedd i ddeall pa wybodaeth maent yn teimlo a fyddai fwyaf defnyddiol iddynt.

Cymorth gweledol

I helpu pobl i ddeall y mesurau diogelu sy’n cael eu cynnig gan gwmnïau cyfreithiol a reoleiddir, byddwn yn datblygu cymhorthion gweledol syml a mapiau taith y cwsmer i gynorthwyo’r cyhoedd. Mae hyn yn destun ymgynghoriad.

Legal Choices

Byddwn yn gwella’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd trwy ddatblygu Legal Choices, y wefan ar gyfer defnyddwyr yr ydym yn ei rhedeg ar ran y rheoleiddwyr cyfreithiol ar y cyd. Gyda golwg ar anghenion cyfreithiol nad ydynt yn cael eu diwallu, rydym yn bwriadu buddsoddi yn y safle i helpu pobl o bob cymuned i ddod o hyd i’r gwasanaethau cyfreithiol sydd fwyaf addas iddynt hwy. Gan weithio â rheoleiddwyr partner a gyda chyngor grwpiau eiriolaeth i ddefnyddwyr, byddwn yn datblygu ffyrdd o helpu pobl i weld a oes ganddynt angen cyfreithiol, a byddwn yn darparu gwybodaeth hygyrch a gwrthrychol i helpu i ddiwallu’r angen hwnnw.

Amcan pedwar: Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein trefniadau rheoleiddio’n gweithio mor effeithiol â phosibl i’r cyhoedd, busnesau, cyfreithwyr a chwmnïau yng nghyd-destun datblygiadau cyfansoddiadol yn y DU ac unrhyw berthynas newydd â’r UE.

Rhagolygon Risg

Byddwn yn parhau i fonitro’r farchnad, gan gynnwys effeithiau ymadawiad y DU â’r UE. Byddwn yn cyhoeddi diweddariad i’n hadroddiad Exiting the EU: an update for lawyers, a gyhoeddwyd yn 2016, wrth i’r sefyllfa ddod yn fwy eglur.

Cymru

Fel y rheoleiddiwr ar gyfer cyfreithwyr a chwmnïau yng Nghymru a Lloegr, rydym eisoes wedi cynyddu ein gweithgarwch yng Nghymru a byddwn yn gwneud mwy eto. Bydd ein Bwrdd yn cwrdd yng Nghymru bob blwyddyn, a byddwn yn parhau i gydweithio’n glos ag ysgolion y gyfraith a grwpiau buddiant yng Nghymru wrth i ni weithredu’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ein cyhoeddiadau a’n tystysgrifau gweithio yn Gymraeg. Byddwn yn edrych i gyfeiriad ein Fforwm Cynghori Cymreig am argymhellion ar beth arall allwn ni ei wneud i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru.

Y Gronfa Iawndal

Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o lefel bosibl yr atebolrwydd mae’r Gronfa Iawndal yn ei hwynebu o ganlyniad i risgiau hysbys a newydd yn y sector, fel cynlluniau buddsoddi amheus.

Gwyngalchu arian

Mae mynd i’r afael â gwyngalchu arian yn flaenoriaeth bwysig i lywodraethau a chymunedau ledled y byd. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar weithredu cyfrifoldebau newydd o dan y rheoliadau gwrth wyngalchu arian diweddaraf (ceir rhagor o wybodaeth yma). Mae hyn yn cynnwys:

  • paratoi ar gyfer adolygiad y Tasglu Gweithredu Ariannol yn 2018
  • gweithio i gydymffurfio â gofynion y rheoleiddiwr goruchwylio newydd ar gyfer gwyngalchu arian, Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Cyhoeddus
  • gwneud yn siŵr bod ein staff wedi’u hyfforddi’n briodol i reoleiddio’n effeithiol yn y maes hwn
  • gwneud yn siŵr ein bod yn goruchwylio cwmnïau mewn ffordd briodol
  • helpu cyfreithwyr â’u hymrwymiadau i atal gwyngalchu arian.

Rhybuddion

Mewn marchnad fyd-eang sy’n fwy cydgysylltiedig nag erioed o’r blaen, byddwn yn parhau i gyhoeddi gwybodaeth ar ffurf rhybuddion ar unrhyw risgiau neu faterion difrifol sy’n dod i’r amlwg yn y farchnad gyfreithiol. Trwy wneud hyn, bydd y cyhoedd a’r proffesiwn yn ymwybodol o’r risgiau hyn a’n ffordd o fynd i’r afael â hwy.

Gweithio â rheoleiddwyr ar draws y byd

Rydym wedi datblygu gwefan ar gyfer rheoleiddwyr cyfreithiol i rannu gwybodaeth a phrofiadau. Rydym yn bwriadu datblygu’r adnodd hwn ymhellach, gan helpu i ddiogelu defnyddwyr ac enw da cyfraith Cymru a Lloegr trwy gynyddu dealltwriaeth a hybu cysylltiadau gweithio.

Amcan pump

Byddwn yn gweithio’n well gyda’n gilydd, ac ag eraill, i wella ein heffeithiolrwydd, ein gallu i ymateb a sut yr ydym yn cyflawni ein swyddogaethau rheoleiddio

Moderneiddio TG

Byddwn yn parhau i wireddu buddiannau a gwelliannau ein gwaith Moderneiddio TG (ceir rhagor o fanylion yma). Rydym yn ailwampio ein systemau TG presennol gyda’r defnyddwyr, cyfreithwyr a’r cyhoedd yn flaenllaw yn ein meddyliau. Bydd gwneud gwelliannau craidd, technolegol yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion rheoleiddio’n well.

Polisïau a chanllawiau

Ar hyn o bryd mae gennym nifer fawr ac amrywiol o bolisïau gweithredol, prosesau a chanllawiau mewnol. Mae angen i ni adolygu’r rhain i sicrhau eu bod yn ateb y galw a’u bod yn cyd-fynd â’n system TG newydd.

Diogel data

Ym mis Mai 2018, bydd y Ddeddf Diogelu Data’n cael ei disodli gan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd hyn. I wneud hyn, bydd ein gwaith yn ymdrin ag ystod eang o feysydd, ond bydd yn cynnwys datblygu system newydd, hyfforddi staff a phrosesau a newidiadau diwylliannol. A byddwn yn helpu cwmnïau i ddeall eu rhwymedigaethau trwy eu cyfeirio at adnoddau a chymorth.

Gweithio’n well gyda’n gilydd

I wneud yn siŵr ein bod yn gweithio mor effeithiol â phosibl, byddwn yn parhau i ddatblygu a defnyddio dulliau o safon uchel i gyfathrebu â staff trwy amrywiaeth o gyfryngau. Byddwn yn parhau i hybu gwaith ein rhwydweithiau staff amrywiol a’n cyfres o ddigwyddiadau ffydd blynyddol. Byddwn yn parhau i weithio i ymgorffori ein gwerthoedd corfforaethol.

Ymgysylltu wyneb yn wyneb a digidol

Byddwn yn rhedeg rhaglen gydlynus ac effeithiol o ddigwyddiadau corfforaethol, i godi ymwybyddiaeth o’n dull rheoleiddio. Byddwn yn parhau i weithio’n agos â grwpiau ar draws y proffesiwn, er enghraifft y Grŵp Ymarferwyr Unigol, y Rhwydwaith Cyfreithwyr Du a Chymdeithas Cyfreithwyr Dinas Llundain, yn ogystal â Chymdeithas y Cyfreithwyr. A byddwn yn ymgysylltu â’r cyhoedd ac ystod eang o grwpiau cymorth ac eiriolaeth.

Siarter ymgysylltu â’r cyhoedd

Byddwn yn datblygu siarter ymgysylltu â’r cyhoedd, a fydd yn disgrifio’r hyn y gall y cyhoedd ei ddisgwyl gennym a sut y mae’r cyhoedd yn gweld ein gwaith. Byddwn yn datblygu hyn gyda chyrff eiriolaeth a’r cyhoedd yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda golwg ar ymgynghori ddiwedd 2018. Byddwn hefyd yn gweithio i ehangu ein cymunedau ar-lein i gynnwys mwy o’r cyhoedd. Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio â grwpiau cynrychioliadol i gyrraedd grwpiau agored i niwed.

Moderneiddio TG

O dan ein rhaglen Moderneiddio TG, rydym yn buddsoddi yn ein holl systemau TG i wneud yn siŵr eu bod yn gyfoes, yn canolbwyntio ar y defnyddiwr a’u bod yn hawdd i’w defnyddio, a’u bod yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid. I wneud hyn, byddwn yn parhau i ymgysylltu’n eang â’r cyhoedd, grwpiau eiriolaeth a’r proffesiwn ar ba fath o wasanaeth maent yn dymuno ei gael gennym.

Cynnig gwasanaethau gwell i’r cyhoedd

Hyd yma, rydym wedi treulio 70 o oriau, wedi rhedeg pum grŵp ffocws ac wedi siarad â dros 80 o aelodau’r cyhoedd, i ganfod pa fath o systemau TG newydd yr hoffent ei weld. Dyma rai yn unig o’r pethau y byddwn yn eu gwneud:

  • Gwneud yn siŵr ein bod yn gallu addasu i amgylchiadau unigol, er enghraifft ei gwneud yn haws i drydydd partïon i gwyno ar ran rhywun arall.
  • Ei gwneud yn haws i ddod o hyd i wybodaeth ac i’w deall, trwy wella sut mae canfod gwybodaeth o dudalen gartref ein gwefan.
  • Cynnig gwasanaethau hyblyg i gwsmeriaid, trwy roi dewis i gwsmeriaid ynglŷn â sut yr hoffent i ni gysylltu â hwy a chynnig help dros y ffôn i bobl i fewngofnodi i’n system.

Cynnig gwasanaethau gwell i’r bobl rydym yn eu rheoleiddio

Buom yn siarad â 750 o aelodau o’r proffesiwn i glywed eu barn ar yr hyn yr hoffent ei weld yn cael ei wella. Dyma rai yn unig o’r pethau y byddwn yn eu gwneud:

  • Gwneud ein systemau’n haws i’w defnyddio ac yn haws i ddod o hyd i wybodaeth, fel ar ein gwefan a thrwy’r porth ar-lein, MySRA.
  • Gwneud yn siŵr bod ein gwasanaethau a’n prosesau’n effeithlon a hyblyg, fel y bydd yn haws i weithio â ni.
  • Datblygu systemau a phrosesau sy’n hawdd i’w defnyddio a’u deall.

Cwynion am ein gwasanaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddelio â phawb mewn ffordd deg a thryloyw. Rydym yn cydnabod y byddwn, weithiau, yn gwneud camgymeriadau a byddwn yn ceisio datrys unrhyw broblemau sy’n ymwneud â’n gwasanaeth yn ddiymdroi.

“Mae’r Awdurdod yn awyddus bob amser i glywed adborth gennym am y cwynion rydym yn ymchwilio iddynt ac mae wedi dangos awydd gwirioneddol i sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir ganddo mor uchel â phosibl.”

Adroddiad Blynyddol 2016/17 gan Wasanaethau’r Ombwdsmon, ein hadolygydd annibynnol

Gall cwynion corfforaethol fod am bethau fel yr amser rydym yn ei gymryd i ddelio ag achos, nad ydym yn egluro pethau’n ddigon clir, neu nad ydym yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol.

Nid yn unig y mae'n bwysig unioni pethau ar gyfer y sawl sy'n cwyno, ond rhaid i ni hefyd ddysgu o’u hadborth. Mae ein tîm Cwynion Corfforaethol yn gweithio ar brosiectau pwysig ar draws y sefydliad i wneud gwelliannau pellach i’n ffordd o weithio. Y prif feysydd rydym wedi bod yn eu datblygu yw:

Hyfforddiant mewn gofal i gwsmeriaid

Eleni, rydym wedi canolbwyntio ar godi proffil gofal da i gwsmeriaid. Rydym wedi cyflwyno rhaglenni hyfforddi a seminarau ar safonau craidd gofal i gwsmeriaid a sut yr ydym yn eu gweithredu. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn ystod y flwyddyn nesaf, gan adeiladu ar ein safonau craidd a gwella sgiliau ein staff ymhellach.

Gohebiaeth ysgrifenedig

Ochr yn ochr â’n hyfforddiant ar ofal i gwsmeriaid, rydym wedi parhau i roi pwyslais ar ein gohebiaeth ysgrifenedig i gwsmeriaid. Gwyddom fod yn rhaid i ni gyfathrebu mewn ffordd glir, dryloyw a hawdd i’w deall pan fyddwn yn ysgrifennu at bobl sydd wedi cysylltu â ni i fynegi pryder am gyfreithiwr neu gwmni cyfreithiol. Rydym wedi darparu hyfforddiant pwrpasol i dimau gweithredol allweddol i ddatblygu hyn ymhellach.

Gwybodaeth fwy eglur am ein rôl

Rydym yn cael nifer o gwynion gan y cyhoedd am gyfreithwyr lle nad ydym yn gallu helpu. Gall hyn fod am nad ydym y sefydliad cywir i weithredu, neu am na allwn fod yn gysylltiedig ag achos nes bydd sefydliad arall wedi cynnal ymchwiliad i’r achos, er enghraifft, yr heddlu. Rydym yn gweithio i wella’r wybodaeth ar ein gwefan a’r wybodaeth rydym yn ei hanfon at y cyhoedd pan fyddant yn mynegi pryder wrthym, fel y byddant yn deall yn well pa bryd a phan yr ydym yn gallu gweithredu yn erbyn cyfreithiwr neu gwmni.

Gweithio ag Ombwdsmon y Gyfraith

Mewn rhai achosion, Ombwdsmon y Gyfraith fydd yn y sefyllfa orau i ddelio ag achos gan ei bod yn gŵyn am wasanaeth a ddarparwyd gan gyfreithiwr neu gwmni. Gall Ombwdsmon y Gyfraith hefyd gael adroddiadau na all ymchwilio iddynt gan eu bod yn ymwneud â chamymddwyn proffesiynol ar ran cyfreithiwr. Bydd yn ailgyfeirio’r rhain atom ni. Rydym yn gweithio ag Ombwdsmon y Gyfraith i wella ein trefniadau cyfathrebu ar y cyd, fel y bydd y cyhoedd yn deall ein rolau’n well a pha sefydliad sydd yn y sefyllfa orau i ddelio â’u pryderon.