Polisi addasiadau rhesymol

23 Ionawr 2017

Ystyried pawb

Mae’n bwysig bod pawb yn cael yr un cyfle i ddefnyddio ein hadnoddau a’n gwybodaeth, a bod pobl yn gallu cyfathrebu â ni yn rhwydd. Mae ein ffordd o weithio yn cynnwys pawb, ac rydym yn cydnabod bod pob un ohonom yn wahanol a bod gennym anghenion gwahanol. Mae hyn yn berthnasol i bawb, gan gynnwys y bobl rydym yn eu rheoleiddio.

Os oes gennych chi anabledd, problem iechyd neu broblem iechyd meddwl, gallwn eich helpu drwy addasu rhai pethau i leihau neu gael gwared ar unrhyw rwystrau rydych chi’n eu hwynebu.

Gallwch ddarllen mwy am ein dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae’n bosib y gallwn eich helpu hyd yn oed os nad oes gennych chi anabledd yn unol â diffiniad y Ddeddf.

Rhowch wybod i ni gynted â phosib os oes angen i ni addasu unrhyw beth i chi, a sut gallwn ni helpu.

Sut mae gofyn am help?

Gallwch ofyn i ni addasu rhywbeth drwy gysylltu ag un o’r canlynol:

  • y person rydych chi’n delio ag ef ar hyn o bryd yn yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, neu
  • ein canolfan gyswllt.

Byddwn yn delio â’ch cais yn sensitif, ac yn trafod gyda chi beth yw’r ffordd orau i ni eich helpu.

Pa addasiadau allwn ni eu gwneud?

Byddwn yn ceisio dod o hyd i ffordd o leihau neu gael gwared ar unrhyw anfantais rydych chi’n ei hwynebu oherwydd eich anabledd, eich problem iechyd neu’ch problem iechyd meddwl.

Bydd natur ein haddasiadau yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol chi, a’ch rheswm dros gysylltu â ni.

Dyma ambell enghraifft o’r addasiadau y gallwn eu gwneud ar gyfer y rheini rydym yn eu rheoleiddio:

  • Caniatáu mwy o amser pan fyddwch chi’n gwneud cais i ni neu’n ymateb i’n hymholiadau (os na fydd modd i ni ymestyn cyfyngiad amser sydd wedi’i osod gan y gyfraith, byddwn yn rhoi gwybod i chi).
  • Cynnig opsiwn arall i chi os na fyddwch chi’n gallu defnyddio ein rhaglenni ar-lein.
  • Caniatáu i chi gael rhywun arall yn bresennol yn ystod cyfweliad neu ymweliad â’r cwmni.
  • Cytuno ar un person i reoli’ch gohebiaeth â ni os bydd llawer o adrannau’n rhan o’r broses.

Dyma ambell enghraifft o’r addasiadau y gallwn eu gwneud os ydych chi’n gwneud cwyn am gyfreithiwr, neu’n cysylltu â ni am reswm arall:

  • Cynnig opsiwn arall i chi yn hytrach na’n rhaglenni a’n gwasanaethau ar-lein.
  • Gwrando ar eich cwyn a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi dros y ffôn, os yw hynny’n haws i chi.
  • Defnyddio’r dull rydych chi’n ei ffafrio wrth gyfathrebu â chi – dros e-bost, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
  • Darparu gwybodaeth mewn fformat sy’n haws i chi ei ddarllen.
  • Sicrhau bod rhywun sy’n eich helpu yn cael ei gynnwys yn y broses.

Sut byddwn yn penderfynu beth sy’n rhesymol?

Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwn wneud trefniadau ar eich cyfer yn gymharol rwydd. Mewn ambell achos, bydd angen i ni gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ei angen arnoch chi cyn gallu gwneud trefniadau addas. Byddwn yn rhoi sylw i bob cais yn unigol, ac yn ystyried eich amgylchiadau a manylion eich achos.

Drwy ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch chi, gallwn gytuno ar ffordd effeithiol o’ch helpu, gan ystyried y canlynol:

  • pa mor ymarferol yw gwneud yr addasiad.
  • yr adnoddau y bydd eu hangen i wneud yr addasiad dan sylw.
  • a fyddai’ch cais yn effeithio ar ein cyfrifoldebau tuag at bobl eraill.

Ni allwn gytuno ar addasiad sy’n golygu newid hanfodol i’n cyfrifoldebau neu ein pwerau fel rheoleiddiwr. Er enghraifft:

  • O ran y bobol rydym yn eu rheoleiddio, os bydd perygl dybryd i aelod o’r cyhoedd mae’n annhebygol y byddwn yn dal yn ôl unrhyw ymchwiliad brys i honiadau a wnaed amdanoch chi neu’ch cwmni, ond gallwn wneud trefniadau i’ch helpu drwy’r broses.
  • O ran y bobl sydd wedi gwneud cwyn i ni, ni fyddwn yn gallu ymchwilio i’r gŵyn os nad yw’n dod o dan ein pwerau ni, ond byddwn yn egluro ein penderfyniad ac yn eich cyfeirio at asiantaethau eraill a allai'ch helpu.

Fydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol?

Ni fydd angen i ni weld tystiolaeth feddygol fel arfer, ond bydd angen gwneud hynny mewn ambell achos. Fel arfer, mae hyn yn berthnasol i’r bobl rydym yn eu rheoleiddio pan fyddwn yn delio â materion rheoleiddio difrifol.

I gael rhagor o wybodaeth a chopïau o’r polisi hwn mewn fformat arall, siaradwch â’r person sy’n delio â’ch achos neu gallwch gysylltu â ni.