Riportio unigolyn neu gwmni

EnglishCymraeg

Rydym yn gweithio gyda chyfreithwyr, cwmnïau, mathau eraill o gyfreithwyr a rhai sydd ddim yn gyfreithwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’n Hegwyddorion er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ymddwyn yn annibynnol, yn deg ac yn onest er budd eu cleientiaid ac er budd y cyhoedd. Rydym yn croesawu gwybodaeth am anonestrwydd neu dorri amodau ein Hegwyddorion; fodd bynnag, nid ydym yn gallu delio â phroblemau’n ymwneud â gwasanaeth gwael.

Ombwdsmon y Gyfraith sy’n delio â chwynion am wasanaeth gwael. Mae gwasanaeth gwael yn cynnwys peidio â mynd ati’n briodol i roi gwybodaeth i chi am eich mater cyfreithiol. Mae’r Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr yn delio ag achosion o fethu cydymffurfio â rhwymedigaethau proffesiynol, fel dyletswydd i gadw’ch materion yn gyfrinachol neu ddyletswydd i weithredu’n onest ac yn briodol. Mae methu cydymffurfio â rhwymedigaethau proffesiynol hefyd yn gallu bod yn achos o wasanaeth gwael. Bydd gwefan Ombwdsmon y Gyfraith yn eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o gael help. Os byddwch chi’n rhoi gwybod i Ombwdsmon y Gyfraith am achos o wasanaeth gwael a bod yntau o’r farn ei fod yn achos o fethu cydymffurfio â rhwymedigaethau proffesiynol, bydd hefyd yn trosglwyddo’r mater i ni ei ystyried. Gall Ombwdsmon y Gyfraith roi cyfarwyddyd i gwmni neu unigolyn dalu iawndal i chi am wasanaeth gwael. Ni all yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr ddyfarnu iawndal i chi. Pwerau rheoleiddio sydd gennym ni, ac maent yn cynnwys cymryd camau yn erbyn y cwmni neu’r unigolyn dan sylw – er enghraifft, ei helpu i gydymffurfio â’i rwymedigaethau neu, pan fo’r mater yn ddifrifol, rheoli’r ffordd y bydd yn gweithio yn y dyfodol.

Os oes gennych chi broblem gyda’ch cyfreithiwr, darllenwch y wybodaeth ganlynol yn ofalus i gael gwybod:

Rydym yn rheoleiddio dros 10,500 o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Ein nod yw gwarchod y cyhoedd a gosod safonau ymddygiad proffesiynol ar gyfer y cyfreithwyr ac eraill sy’n cael eu rheoleiddio gennym ni.

Efallai eich bod am gael gwybod pa fath o bethau y gallwch wneud cwyn i ni amdanynt, a chael gwybod pa gamau y gallwn eu cymryd o ran eich cwyn.

Sut mae cwyno wrth eich cyfreithiwr

Rhaid i chi bob amser geisio cwyno wrth eich cyfreithiwr neu’ch cwmni yn gyntaf. Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, fel arfer ni fyddwch yn gallu mynd â’ch cwyn ymhellach – i Ombwdsmon y Gyfraith nac i ni.

Efallai y byddwch chi’n gweld bod delio â’r broblem yn anffurfiol i ddechrau yn datrys y sefyllfa. Fodd bynnag, os na fydd hynny’n gweithio, dylai’ch cyfreithiwr bob amser roi gwybodaeth i chi am ei drefn gwyno swyddogol a’ch hawl chithau i gyfeirio’ch cwyn at Ombwdsmon y Gyfraith.

Wrth wneud eich cwyn, dylech sicrhau eich bod yn:

  • cyflwyno'r gŵyn gynted â phosib, pan rydych yn gwybod yn iawn beth yw’r broblem a phan mae’n dal yn ffres yn eich meddwl;
  • gwybod yn iawn beth yw’ch cwyn, a sut yr hoffech iddi gael ei datrys – gwnewch nodyn o’r pwyntiau perthnasol rydych am roi sylw iddynt;
  • gwneud nodyn o enw’r person rydych wedi siarad ag ef a beth a ddywedwyd – bydd hyn yn ddefnyddiol os bydd angen i chi fynd ar drywydd eich cwyn neu fynd â hi ymhellach;
  • peidio â chynhyrfu a bod yn gwrtais – er eich bod yn teimlo’n rhwystredig iawn o bosib, mae’n haws o lawer cael y canlyniad rydych chi’n anelu eto os ydych chi’n ymddwyn yn rhesymol; a
  • rhoi amser iddynt ddatrys eich cwyn – mae Ombwdsmon y Gyfraith yn awgrymu hyd at wyth wythnos.

Gallwch gael rhagor o help, gan gynnwys templed o lythyr cwyn a mwy o awgrymiadau ar sut mae gwneud cwyn, ar wefan Ombwdsmon y Gyfraith. Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio gwasanaethau neu fynegi’ch hun yn glir, efallai y gall sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth eich helpu.

Os ydych chi eisoes wedi cwyno wrth y cyfreithiwr neu’r cwmni dan sylw, ac nad yw wedi datrys y gŵyn yn foddhaol yn eich barn chi o fewn wyth wythnos i’w chyflwyno, gallwch fynd â’ch achos at Ombwdsmon y Gyfraith. Fel arfer, mae’n rhaid i chi fod wedi cwyno wrth eich cyfreithiwr neu’ch cwmni, neu ni fydd yn derbyn eich cwyn.

Ombwdsmon y Gyfraith sy’n delio â phob agwedd ar wasanaeth gwael, er enghraifft:

  • gohebiaeth aneglur neu oedi gyda gohebiaeth
  • problemau gyda'ch ffioedd, neu
  • ddogfennau ar goll.

Gall Ombwdsmon y Gyfraith wneud y canlynol:

  • mynnu bod y cyfreithiwr neu’r cwmni yn ymddiheuro,
  • mynnu bod y cyfreithiwr neu’r cwmni yn ad-dalu’ch holl ffioedd, neu ran ohonynt,
  • mynnu bod y cyfreithiwr neu’r cwmni yn dychwelyd eich dogfennau, a
  • thalu iawndal os ydych chi wedi bod ar eich colled oherwydd gwasanaeth gwael.

Mae ymchwilwyr Ombwdsmon y Gyfraith yn ceisio datrys achosion mor gyflym ac anffurfiol â phosib, drwy'ch helpu chi a’r cwmni neu’r cyfreithiwr i ddod i gytundeb.

Mae’r Ombwdsmon wedi cael ei hyfforddi i adnabod achosion o anonestrwydd ac achosion sy’n torri amodau ein Hegwyddorion. Mae ganddo Memorandwm dealltwriaeth (PDF, 5 tudalen, 143K) gyda’r Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr a chyrff rheoleiddio cyfreithiol eraill (fel Bwrdd Safonau’r Bar a CILEx Rheolei) roi gwybod am achosion o’r fath er mwyn ymchwilio iddynt.

Gallwch gysylltu ag Ombwdsmon y Gyfraith drwy:

Pryd ddylech chi riportio cyfreithiwr i’r Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr

Rydym yn delio ag achosion lle mae cwmnïau, neu’r rheini rydym yn eu rheoleiddio, wedi torri Egwyddorion yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr. Y rhan fwyaf o’r amser, mae’r cwynion am gyfreithwyr yn ymwneud â gwasanaeth gwael, ac felly dylid eu cyfeirio at Ombwdsmon y Gyfraith. Os bydd Ombwdsmon y Gyfraith yn credu bod eich achos yn ymwneud â thorri amodau ein Hegwyddorion ni, bydd yn cyfeirio’ch achos atom ni. Yn yr un modd, os byddwch chi’n riportio cyfreithiwr i ni am wasanaeth gwael, byddwn yn eich cyfeirio at Ombwdsmon y Gyfraith; read our Memorandwm dealltwriaeth (PDF, 5 tudalen, 143K) i gael rhagor o wybodaeth am y trefniant hwn. Nid oes gennym y pŵer i ddyfarnu iawndal am wasanaeth gwael, nac i leihau nac ad-dalu’ch ffioedd cyfreithiol.

Fodd bynnag, os byddwch chi’n credu bod cwmni neu unrhyw un sy’n cael ei reoleiddio gennym ni wedi torri amodau un o Egwyddorion yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr, dylech roi gwybod i ni yn uniongyrchol.

Gallwch hefyd riportio cwmni, neu rywun sy’n cael ei reoleiddio gennym ni, am beidio â thalu ffioedd proffesiynol (er enghraifft ffioedd asiant neu arbenigwr)

  • os oes gennych chi ddyfarniad Llys Sirol yng nghyswllt y ffi, ac
  • os yw’r dyfarniad yn ymwneud ag ymarfer yng nghyswllt darparu gwasanaeth cyfreithiol.

Nid ydym yn ymchwilio i rai materion. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn ystyried honiadau o ymddygiad anonest neu wahaniaethu.

Os ydym wedi cau cwmni a chithau’n credu bod arian yn ddyledus i chi gan y cwmni, efallai y gallwch wneud hawliad am arian gan ein Cronfa Iawndal.

Mae’r Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr wedi rhoi’r gorau i awdurdodi cyfreithwyr sydd am fod yn Ymarferwyr Ansolfedd.

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â phenodiad cyfreithiwr o dan Ddeddf Ansolfedd 1986, cysylltwch â’r Corff Proffesiynol Cydnabyddedig sy’n awdurdodi’r unigolyn erbyn hyn. Os yw’r cyfreithiwr wedi cael ei benodi a heb gael ei awdurdodi gan Gorff Proffesiynol Cydnabyddedig, mae’n bosib ei fod yn cyflawni trosedd.

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r gwasanaethau cyfreithiol a gafwyd gan gyfreithiwr/Ymarferwr Ansolfedd, cyfeiriwch at y canllawiau cynharach ar y dudalen hon.

Sut mae riportio cyfreithiwr neu gwmni i’r Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr

Wrth riportio, cofiwch wneud y canlynol:

  • egluro’ch pryderon yn glir,
  • enwi’r unigolion sy’n gyfrifol yn eich barn chi,
  • ychwanegu unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r gŵyn.

I anfon eich gwybodaeth atom:

I gael arweiniad ar y broses gwyno, cysylltwch â’n canolfan gyswllt. Cofiwch na allwn roi cyngor i chi ar y gŵyn, ond fe allwn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod ar y trywydd cywir.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Byddwn yn cydnabod pob gwybodaeth gychwynnol a gyflwynir drwy:

  • ddiolch i chi am gyflwyno’r wybodaeth, a
  • chadarnhau sut byddwn yn delio â’ch gwybodaeth.

Weithiau, mae’n bosib y byddwn yn penderfynu cysylltu â chi eto:

  • os byddwn yn credu bod gennych chi wybodaeth bellach sydd ei hangen arnom er mwyn cymryd y camau priodol, neu y gallwch chi gael gafael ar y wybodaeth honno, a/neu
  • os byddwn yn credu y bydd rhaid i chi fod yn dyst neu gyflwyno datganiad tyst – mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn ein canllawiau i dystion.

Safonau ein gwasanaeth

Rydym yn gweithredu mewn ffordd mor agored a thryloyw â phosib.

Os ydych chi’n anfodlon â’r ffordd rydym yn delio â’ch achos, gallwch gyflwyno cwyn i ni.

Ein nod yw gweithio gydag unigolion a chwmnïau rydym yn eu rheoleiddio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag Egwyddorion yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr, a osodwyd gennym ni.

Pan fydd achos o ddiffyg cydymffurfio â’r Egwyddorion, byddwn yn ystyried y risg i’r cyhoedd a defnyddwyr i’n helpu i benderfynu beth yw’r ffordd orau o sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod. Pan fydd y risg yn ddifrifol gallwn gymryd camau gorfodi ffurfiol, fel cyfyngu ar y ffordd maent yn gweithio. Mewn achosion difrifol iawn, gallwn gau cwmni neu sicrhau nad yw unigolyn yn gallu ymarfer yn y dyfodol. Yma gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoleiddio.

Mae’n bosib y byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniadau rheoleiddio.

Mae gennym bwerau eang iawn. Fodd bynnag, nid oes gennym y pŵer i ddatrys cwynion am wasanaeth gwael. Ni allwn chwaith fynnu bod cwmni cyfreithiol yn talu iawndal i chi.

r